
Araith gyntaf Keir Starmer fel Prif Weinidog: 'Y wlad yn gyntaf, y blaid yn ail'
Araith gyntaf Keir Starmer fel Prif Weinidog: 'Y wlad yn gyntaf, y blaid yn ail'
Mae Syr Keir Starmer wedi dweud mai "gwlad yn gyntaf, plaid yn ail" fydd ei arwyddair wedi iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog y DU.
Yn ei araith gyntaf y tu allan i 10, Stryd Downing, dywedodd y byddai ei lywodraeth "yn trin pob un person yn y wlad gyda pharch."
Ar ôl buddugoliaeth ysgubol yn yr Etholiad Cyffredinol, cafodd arweinydd y Blaid Lafur wahoddiad swyddogol gan Frenin Charles III i arwain y Llywodraeth newydd.
Mewn fideo gafodd ei ryddhau gan Palas Buckingham o'r cyfarfod, dywedodd y Brenin wrth Syr Keir: "Mae'n rhaid eich bod chi'n flinedig a bron ar eich gliniau."
Dywedodd Syr Keir: "Dwi ddim wedi cael llawer o gwsg."
Hyd yma ,mae'r blaid wedi ennill 412 o seddi yn yr etholiad, gan gipio 211 o seddi gan y Ceidwadwyr a'r SNP yn yr Alban. Dim ond un canlyniad yn y 650 o seddi sydd ddim wedi ei gyhoeddi.
Ar ôl cwrdd â'r Brenin ym Mhalas Buckingham, fe wnaeth Syr Keir a'i wraig Victoria deithio i Downing Street, lle y cafon nhw eu cyfarch gan gefnogwyr â chyd-weithwyr.

Roedd nifer o faneri Jac yr Undeb, y Ddraig Goch a baneri'r Alban i'w gweld wrth i Starmer annerch y dorf o flaen Rhif 10 Downing Street.
Yn ei araith, dywedodd: "Rydw i wedi dychwelyd o Balas Buckingham ble wnes i dderbyn gwahoddiad ei Mawrhydi'r Brenin i ffurfio Llywodraeth nesaf y wlad fawr hon.
Talodd deyrnged i'r cyn-Brif Weinidog Rishi Sunak, a'i gamp fel y person cyntaf o dras Asiaidd yn y swydd, gan ddweud fod hynny wedi golygu "ymdrech ychwanegol" ar ei ran.
Ond roedd yn feirniadol o'i lywodraeth a llywodraethau Ceidwadol blaenorol.
"Pan mae'r bwlch rhwng yr aberth sy'n cael ei wneud gan bobl, a'r gwasanaeth mae nhw'n dderbyn gan wleidyddion yn tyfu mor fawr a hyn, mae'n arwain at flinder yn y galon, a phylu gobaith, ysbryd, a'r gred mewn dyfodol gwell wrth symud ymlaen gyda'n gilydd," meddai.
"Ond nawr mae ein gwlad wedi pleidleisio yn gadarn o blaid newid, am adnewyddu cenedlaethol, a dychwelyd gwleidyddiaeth i wasanaethu'r cyhoedd.
" Dim ond drwy weithredoedd, nid geiriau, y bydd modd gwella'r diffyg ymddiriedaeth yma. Ond gallwn ddechrau ar hyn heddiw gyda'r gydnabyddiaeth syml fod gwasanaeth cyhoeddus yn fraint. Ac y dylai eich Llywodraeth ymdrin â phob person yn y wlad gyda pharch.
"Os wnaethoch chi bleidleisio dros Lafur neu beidio - yn wir, yn enwedig os na wnaethoch chi bleidleisio dros Lafur - rydw i'n dweud wrthoch chi yn uniongyrchol: mi fydd fy Llywodraeth yn eich gwasanaethu chi. Mae gwleidyddiaeth yn gallu bod yn rym positif.
"Rydyn ni wedi newid y Blaid Lafur a'i dychwelyd i wasanaeth, a dyna sut y byddwn ni yn llywodraethu: y wlad yn gyntaf, y blaid yn ail."
Pwysleisiodd yr angen am newid, gan ddweud :"Pedair cenedl yn sefyll gyda'i gilydd fel rydan ni wedi gwneud mor aml yn y gorffennol, yn wynebu her byd ansicr, ac wedi ymrwymo i ail-adeiladu amyneddgar."
Mae buddugoliaeth Keir Starmer wedi ei groesawu gan Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething.
Dywedodd: “Rwy’n llongyfarch Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar ffurfio llywodraeth newydd.
“Mae hwn yn gyfle mawr i ailosod ein perthynas a dechrau cyfnod newydd o bartneriaeth, gyda dwy lywodraeth yn cydweithio ar weledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson y dylai Llywodraeth y DU weithredu i hybu Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig decach.
“Mae mandad Llywodraeth newydd y DU yn sail cadarn ar gyfer y newid hwnnw. Gyda dwy lywodraeth yn cydweithio, gallwn helpu mwy o bobl i gynllunio dyfodol sicr ac uchelgeisiol yng Nghymru."