Newyddion S4C

Cymru'n rhoi cweir i Canada yng Nghaerdydd

03/07/2021
Callum Sheedy yn chwarae yn erbyn Canada

Mae tîm rygbi Cymru wedi curo Canada 68-12 yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

Wedi misoedd hir o aros, cafodd 8,000 o gefnogwyr wylio'r crysau cochion yn chwarae am y tro cyntaf ers mis Chwefror 2020.

Er y dathlu ar y chwiban olaf, cafodd Cymru ergyd yn ystod munud cyntaf y gêm, gyda Leigh Halfpenny yn gorfod gadael y maes ar ôl iddo anafu ei ben-glin.

Siom eithriadol i'r cefnwr, ag yntau yn dathlu ei 100fed cap rhyngwladol ddydd Sadwrn.

Image
Ergyd i Leigh Halfpenny
Ergyd i Leigh Halfpenny ar ei 100fed cap. Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Canada gipiodd bwyntiau cyntaf y gêm, gyda chais gan Kaiona Lloyd yn rhoi'r ymwelwyr ar y blaen 0-5 wedi pum munud o chwarae.

Daeth Cymru nôl gydag ergyd, gyda Tomos Williams yn sgorio cais dros y crysau cochion a Callum Sheedy'n sicrhau’r trosiad, gan ei gwneud hi'n 7-5 i Gymru wedi saith munud.

Cafodd Gymru gais arall wedi 15 munud, cais rhyngwladol gyntaf James Botham. Sheedy yn methu'r trosiad y tro hyn, ond Cymru ar y blaen 12-5.

Cais rhyngwladol gyntaf i chwaraewr arall o garfan Cymru wedi 21 munud, Jonah Holmes gyda Sheedy yn llwyddo ar ei drosiad. Cymru ar y blaen 19-5.

Wedi 29 munud o chwarae, roedd Cymru'n curo 26-5, ar ôl cais Nicky Smith a throsiad gan lwyddiannus gan Sheedy.

Ymhen ychydig funudau, roedd Elliot Dee wedi sgorio ei gais rhyngwladol cyntaf hefyd, gan ei gwneud hi'n 33-5 ar ôl trosiad arall gan Sheedy.

Erbyn yr hanner amser, roedd Cymru wedi sgorio eu chweched cais. Will Rowlands lwyddodd i gipio'r pum pwynt y tro hyn, a Sheedy'n llwyddo ar y trosiad unwaith eto. 

Hanner amser: Cymru 40 - 5 Canada

Williams hawliodd bwyntiau cyntaf yr ail hanner dros Gymru, a Sheedy unwaith eto yn sicrhau'r trosiad gan ei gwneud i'n 47-5 i Gymru wedi 46 munud.

Ychydig funudau ar ôl iddo gyrraedd y cae, Taine Basham sgoriodd gais wrth iddo ennill ei gap cyntaf dros ei wlad. Sheedy yn llwyddo ar y trosiad, gan ei gwneud hi'n 54-5 i Gymru.

Roedd Basham yn benderfynol o adael ei farc ar y gêm hon, wrth iddo sgorio dwy gais dros Gymru o fewn 5 munud. Ben Thomas y tro hyn wedi cymryd safle Sheedy ar y cae, gyda Thomas yn llwyddo ar y trosiad. 61-5 i Gymru.

Ond roedd yna dal dân ym moliau ymwelwyr, gyda Chanada yn sicrhau saith pwynt wedi 69 munud o chwarae. Cais gan Cooper Coats a throsiad gan Peter Nelson yn ei gwneud hi'n 61-12.

Llwyddodd Cymru i gipio un cais cyn y chwiban olaf, wedi 83 munud o chwarae, Holmes lwyddodd i sgorio cais olaf y gêm, gyda Thomas yn trosi'n llwyddiannus.

Sgôr terfynol: Cymru 68 - 12 Canada.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.