Newyddion S4C

Rhybudd melyn am stormydd i rannau o'r gogledd

03/07/2021
Stormydd

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd i fannau yn y gogledd ddwyrain a'r canolbarth dros y penwythnos.

Mae'r rhybudd mewn grym tan 23.59 nos Sul.

Gogledd ddwyrain y wlad fydd yn gweld y gwaethaf o'r storm, gan gynnwys rhannau o Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Sir Conwy yn cael eu heffeithio tan nos Sul.

Mae'r rhybudd am stormydd mewn grym yng ngogledd Sir Powys tan 23.59 nos Sadwrn.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe all y storm achosi gwyntoedd cryfion, gyda phosibilrwydd o achosi oedi ar y ffyrdd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.