Nos Iau 'ddim am fod yn noson dda i'r SNP' medd Nicola Sturgeon
Ni fydd nos Iau “yn noson dda i’r SNP” meddai Nicola Sturgeon, wrth i’r pôl piniwn ar ddiwedd y pleidleisio awgrymu y gallai cynrychiolaeth y blaid ddisgyn i gyn lleied â 10 sedd yn yr Alban.
Cafodd arolwg y BBC/ITV/Sky ei gyhoeddi wrth i’r blychau pleidleisio gau am 22:00, gan awgrymu mwyafrif o 170 sedd i Lafur ar draws y DU.
Mae’n ymddangos bod llwyddiant plaid Syr Keir Starmer wedi ymestyn i’r Alban, gyda’r awgrym y gallai'r SNP golli 38 sedd o’i gymharu ag etholiad 2019.
Wrth siarad ar ITV, dywedodd cyn-arweinydd yr SNP: “Nid yw hon yn noson dda i’r SNP ar y canlyniadau hyn.
“Rwy’n meddwl y bydd cwestiwn a oedd digon yn yr ymgyrch i roi, i bob pwrpas, llais unigryw i’r SNP mewn etholiad a oedd yn ymwneud â chael y Torïaid allan a’u disodli â Llafur.”
Mae disgwyl mai canlyniad cyntaf yr Alban fydd Rutherglen, a allai gael ei gyhoeddi am 01:00.
Dywedodd Nicola Sturgeon ei bod yn credu y byddai canlyniadau’r arolwg yn gywir ar y cyfan.