Newyddion S4C

Pâr priod o Gaerdydd yn bwriadu ‘creu map pompom’ o’r etholiad cyffredinol

Map pompomau

Mae pâr priod o Gaerdydd yn bwriadu aros i fyny drwy’r nos ar noson yr etholiad er mwyn “creu map pompom” o’r Etholiad Cyffredinol.

Mae Ed Peacock, 39, a’i wraig Charlotte, 42, wedi creu'r pompomau eu hunain ac yn gobeithio y bydd digon gyda nhw ar gyfer 650 sedd beth bynnag fydd y canlyniad nos Iau.

Dywedodd Mr Peacock, sy’n gweithio fel tywysydd cŵn: “Gobeithio fod gennym ni ddigon o bompomau o’r lliwiau cywir yn barod fel nad oes angen creu mwy ar y noson.”

Mae disgwyl y canlyniadau cyntaf yn gynnar fore dydd Gwener am tua 01.00, a'r olaf erbyn tua 07.00.

Dechreuodd traddodiad y ddau yn 2017 ond ni fu’n llwyddiant y tro cyntaf, meddai Mr Peacock.

“Roedd 2017 yn eitha’ cyffrous i ni yn griw o bobol de Cymru ar y chwith felly yn anochel fe gawsom ychydig yn ormod o gwrw a bu’n rhaid i ni roi’r gorau iddi tua phedwar y bore.

“Yn 2019 roedd pawb wedi eu siomi erbyn deg nos Iau oherwydd y bleidlais ond fe wnaethon ni barhau am rywfaint o’r noson.

“Eleni mae’r dafarn roedden ni’n arfer gwneud yr her ynddi ar gau felly mae’n mynd i ddigwydd yn nhŷ ffrind. Rydyn ni'n gobeithio ei wneud yr holl ffordd drwy'r nos y tro yma.”

Dywedodd y cwpwl eu bod nhw’n bwriadu glynu at “tri chwrw yn unig ar y noson” a chwblhau’r map “yn drefnus iawn”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.