Buddugoliaeth i'r asgell dde eithafol yn rownd gyntaf etholiadau Ffrainc
Buddugoliaeth i'r asgell dde eithafol yn rownd gyntaf etholiadau Ffrainc
Protestio ym Mharis dros nos yn dilyn llwyddiant Rassemblement National yn rownd gynta'r etholiad cynulliad Ffrainc.
Cafodd plaid Marine Le Pen draean y bleidlais.
"La democracie a parle."
Mae'r blaid asgell dde eithafol eisiau tynhau rheolau dinasyddiaeth.
Mae hi'n gwrthwynebu mewnfudo a'r Undeb Ewropeaidd ac yn agos at Rwsia.
Fel mae pethau'n sefyll, fe allai ei harweinydd ifanc Jordan Bardella fod yn Brif Weinidog nesa Ffrainc.
"Mae o'n gic mawr i gymdeithas yn Ffrainc ac Ewrop.
"Mae llawer yn cwestiynu os byddan nhw'n ennill beth fydd hynny'n golygu ar gyfer dyfodol Ffrainc mewn partneriaethau fel yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae o'n broblem y mae pobl yn poeni'n fawr amdano ar hyn o bryd."
Yn y drydedd safle ar ol Clymblaid o bleidiau asgell chwith mae plaid y gŵr alwodd yr etholiad.
Mae Emmanuel Macron nawr wedi galw ar bleidiau'r chwith a'r canol i gytuno ar ymgeiswyr i herio Rassemblement y penwythnos nesaf.
"Mae gyda pleidiau tan nos fory fi'n credu i benderfynu pwy fydd yn sefyll ymhob etholaeth.
"Un trafferth sy falle'n tanseilio'r cysyniad yna yw'r ffaith bod plaid Macron wedi treulio'r etholiad yn barnu'r chwith cymaint.
"Felly mae lot ar y chwith yn dweud pam ni isie creu clymblaid gyda'r Arlywydd Macron achos mae ei blaid wedi beirniadu ni'n hallt yn ystod yr ymgyrch.
"Unwaith eto, a ddeith pobl at eu coed yn wyneb y bygythiad yma mae hynny'n fater arall."
Erbyn p'nawn 'ma, roedd nifer o ymgeiswyr oedd yn y trydydd safle wedi tynnu nôl, arwydd efallai bod nhw'n ymateb i apêl Macron.
Ond a'r wlad mor ranedig, does wybod sut bydd pleidleiswyr yn ymateb i hynny, a beth fydd goblygiadau hynny i Ffrainc a'r Undeb Ewropeaidd maes o law.