Newyddion S4C

Rishi Sunak 'yn dal i frwydro' er gwaetha'r polau piniwn

Etholiad Cyffredinol 2024

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi mynnu ei fod "yn dal i frwydro" wrth i'r ymgyrchu ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ddirwyn i ben.

Gyda phob pol piniwn yn proffwydo buddugoliaeth enfawr i'r Blaid Lafur, dywedodd Mr. Sunak ddydd Mercher ei fod yn ceisio "gwneud yr hyn sy'n iawn i'r wlad."

Mae arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, wedi bod yng Nghymru yn ymweld ag etholaeth Caerfyrddin. Dywedodd wrth gefnogwyr y blaid yn Hendy-gwyn ar Daf y byddai buddugoliaeth i'w blaid yn golygu y byddai llywodraethau Llafur yn Llundain a Chaerdydd "yn gweithio gyda'i gilydd yn hytrach na gwrthdaro." 

Mae etholaeth Caerfyrddin yn cael ei hystyried yn sedd allweddol y mae'r arolygon barn yn awgrymu allai gael ei hennill gan Lafur, Plaid Cymru neu'r Ceidwadwyr.

Er bod y polau piniwn yn awgrymu buddugoliaeth i’w blaid yn yr Etholiad mae Syr Keir wedi dweud nad ydyn nhw'n cymryd y canlyniad yn ganiataol ac nad yw’r polau piniwn yn gallu “rhagweld” canlyniadau’r dyfodol.

Am y tro cyntaf ers 2005, mae papur newydd y "Sun" wedi cefnogi'r Blaid Lafur mewn Etholiad Cyffredinol, gan ddweud bod hi'n "amser am newid." 

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Rishi Sunak wedi gwadu awgrymiadau fod ei blaid yn sicr o golli, gan ddweud ar raglen deledu ITV 'This Morning' ddydd Mercher ei fod yn "brwydro'n galed am bob pleidlais." 

Wrth gael ei holi gan ohebwyr yn Hampshire yn ddiweddarach, gwadodd fod y Ceidwadwyr wedi symud yn rhy bell i'r dde, gan ildio pleidleisiau i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Dwi'n meddwl bod ein cynllun yn dilyn yr hyn mae'r rhan fwyaf o bobl Prydain eisiau," meddai. "Torri trethi, diogelu pensiynau, ac ein ffiniau'n saff." 

Mae’r arolygon barn diweddaraf yn awgrymu mai’r blaid Lafur fydd yn ennill y mwyafrif o bleidleisiau ddydd Iau.

 

Image
Keir Starmer
Keir Starmer yng Nghaerfyrddin ddydd Mercher

'Mynnu llais'

Wrth iddo ymweld â Rhydaman yn etholaeth Caerfyrddin fore Mercher, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod gan y blaid "bob rheswm i fod yn hyderus" am eu gobeithion yn yr Etholiad.

"Yr hyn 'da ni wedi geisio wneud yn yr ymgyrch yma - yn llwyddiannus dwi'n meddwl - ydi dweud 'na, mae 'na ddewis arall ar wahan i 14 mlynedd o boen y Toriaid, neu ddifaterwch y blaid Lafur tuag at Gymru," meddai.

Yn ogystal ag ymweld ag etholaeth newydd Caerfyrddin mae Rhun ap Iorwerth yn teithio i etholaethau Ceredigion-Preseli, Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn. 

“Ar Ynys Môn a Chaerfyrddin, Plaid Cymru yw’r blaid i gadw’r Torïaid allan. Mae pôl piniwn olaf YouGov i Gymru ddoe yn profi hynny,” meddai.  

Mae arolwg Barn Cymru gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, yn rhagweld y bydd cefnogaeth i’r Ceidwadwyr yn cwympo i’w lefel isaf yng Nghymru ddydd Iau, gan awgrymu eu bod yn gyfartal â Reform UK. 

Dywedodd yr arolwg y bydd gan y ddwy blaid gyfran o 16% o bleidleisiau etholwyr yr un yn yr Etholiad Cyffredinol. 

'Ennill seddi'

Ar ddiwrnod olaf yr ymgyrchu, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau â'u hymdrechion i geisio cipio seddi oddi ar y Ceidwadwyr yn eu cadarnleoedd traddodiadol. 

Wrth yrru tractor yn Chippenham dywedodd arweinydd y blaid, Syr Ed Davey, mai eu bwriad oedd dymchwel 'Wal Las' y Ceidwadwyr yn ne Lloegr.

"Mewn ardaloedd gwledig, os ydych chi eisiau curo'r Ceidwadwyr, rydych chi'n pleidleisio i'r Democratiaid Rhyddfrydol," meddai 

Bu arweinydd y blaid Reform UK, Nigel Farage yn parhau â’i ymgyrch yn Clacton ddydd Mercher, yng nghanol honiadau pellach o hiliaeth o fewn ei blaid. 

Cymharodd ei hun i Andrew Tate, y dylanwadwr arlein dadleuol, sydd wedi ei gyhuddo o dreisio yn Romania.

"Rydan ni'n trio stopio dynion ifanc rhag bod yn ddynion ifanc," meddai Mr.Farage. "Dyna pam mae gan Tate y nifer o ddilynwyr sydd ganddo. Efallai bod yr hyn dwi'n wneud yn ran o ffenomenon debyg." 

Lluniau: Syr Ed Davey (Matt Keeble/PA Wire), Rhun ap Iorwerth (Matt Alexander/PA Media Assignments), Rishi Sunak (Jeff Overs/BBC/PA Wire), Syr Keir Starmer (Stefan Rousseau/PA Wire), Nigel Farage (Peter Byrne/PA Wire)

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.