Newyddion S4C

Rishi Sunak am 'frwydro am bob pleidlais tan y foment olaf'

02/07/2024
rishi.png

Mae Rishi Sunak wedi dweud nad yw'r rhagolygon fod y Ceidwadwyr yn mynd i golli yn yr etholiad cyffredinol "yn mynd i'w atal" rhag ymgyrchu "tan y foment olaf".

Wrth siarad ar raglen BBC Breakfast fore Mawrth, dywedodd Mr Sunak: "Ro'n i'n effro am 04:00 bore heddiw yn siarad gyda gweithwyr mewn cyfleuster dosbarthu. Dwi yma yn siarad efo chi. Mi fydda i allan tan y foment olaf o'r ymgyrch oherwydd dwi'n meddwl ei fod yn ddewis pwysig iawn i'r wlad.

"Byddaf yn parhau i frwydro am bob pleidlais tan y foment olaf o'r ymgyrch."

Fe wnaeth Mr Sunak hefyd amddiffyn ymgyrch y Ceidwadwyr pan gafodd ei gwestiynu os oedden nhw wedi gwneud camgymeriad gyda'r ymgyrch. 

"Na. Pob man dwi wedi bod yn mynd, mae pobl yn deffro i'r peryglon o beth fyddai Llywodraeth Lafur yn ei olygu iddyn nhw, yn enwedig o safbwynt trethi," meddai.

"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd ond heb os nac oni bai, mae pethau yn well rwan nag yr oedden nhw, ac mae pobl yn dechrau gweld y ffrwyth llafur yma."

'Dydd a nos'

Ychwanegodd Mr Sunak ei fod yn "gweithio ddydd a nos er mwyn cyflawni pethau i bobl" a'i bod yn "fraint enfawr" i fod yn Brif Weinidog. 

Mae disgwyl i Syr Keir Starmer dreulio'r diwrnod yn gwneud nifer o ymweliadau gwahanol ar draws Lloegr. 

Bydd arweinydd y blaid Lafur yn rhybuddio pleidleiswyr o'r risg o godi ar 5 Gorffennaf i bum mlynedd arall o'r Ceidwadwyr mewn grym. 

Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Ed Davey yn ail-ymweld ag un o brif flaenoriaethau ei blaid: rhoi diwedd ar y "sgandal carthion".

Wrth iddo ymgyrchu yn ne orllewin Lloegr, bydd yn galw ar Senedd nesaf San Steffan i gefnogi Bil Dŵr Glân i helpu i wneud gwelliannau. 

Cyn siarad yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog olaf cyn yr etholiad, mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi dweud fod Llafur yn “rhoi’r brêcs ar ddyheadau Cymru”.

Mae disgwyl iddo herio Llafur ar eu tueddiad i "wneud un peth a dweud y llall" ar faterion gan gynnwys arian HS2 sy'n ddyledus i Gymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.