Newyddion S4C

Pwysau ar wleidyddion i gyflymu'r broses o wella cysylltiadau'r we i gymunedau llai

01/07/2024

Pwysau ar wleidyddion i gyflymu'r broses o wella cysylltiadau'r we i gymunedau llai

Yn Nhonypandy, mae cartrefi a busnesau yn profi rhywbeth anghyfarwydd - cysylltiad cyflym i'r we.

Mewn cymuned oedd ag un o'r cysylltiadau arafaf mae gwifrau ffeibr newydd yn gweld y cyflymder bedair gwaith yn gynt.

Penderfyniad masnachol oedd i ddod yma ac mae Ogi yn cydnabod ei bod yn gofyn am arian gan Lywodraeth San Steffan i gyrraedd cymunedau llai o faint.

Mae'r gwahaniaeth i'r rheiny sy'n cael cysylltiad cyflym yn amlwg.

"Ni fel arfer yn mynd i drefi difreintiedig.

"Os oes 'na rhwydwaith a broadband llydan cyflym yna'n barod does dim bwriad i ni fynd yna.

"Ni'n mynd i'r cartrefi, a'r pentrefi a'r dinasoedd hynny ac yn rhoi iddyn nhw am y tro cyntaf erioed yr adnodd i gael y connectivity cyflym sy'n fendith i ni gyd yn ein bywydau prysur ni'n byw ynddi."

Ond mae annhegwch o hyd, yn ôl Geraint Parfitt sy'n byw yn y dref ac yn talu mwy i gael cysylltiad cyflym.

"Fi'n gweld e'n annheg achos mae'r we yn peth pwysig dim jyst fel Weplyfr a pethau felly ond ar gyfer trio am swyddi neu i gael gwybodaeth neu os mae eisiau wneud rhywbeth a'r banc, rhaid mynd ar y wefan.

"Os does dim cyswllt da, mae'n effeithio'r ffordd mae'n gweithio."

Lle bynnag chi'n byw yng Nghymru, mae cysylltiad cyflym yn bwysig ac mae'r Etholiad Cyffredinol yn golygu bod gwella'r sefyllfa yn cael ei drafod gan y gwleidyddion.

Dywedodd y Ceidwadwyr eu bod mewn Llywodraeth wedi gwario biliynau ar ddarpariaeth bandeang cyflym a bod y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd ar ei hôl hi.

Dywedodd Llafur eu bod wedi pontio'r bwlch yng Nghymru drwy ariannu mwy o gysylltiadau tra bod y Toriaid yn San Steffan wedi llusgo eu traed.

Dywedodd Plaid Cymru fod angen blaenoriaethu gwell cysylltiadau mewn cymunedau gwledig lle mae signalau ffôn symudol yn wael.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod angen ffurfio datrysiadau unigryw i gysylltu pawb i'r we.

Dywedodd Reform y byddai'n annog cydweithio rhwng y Llywodraeth a chwmniau cyfathrebu i gael bandeang cyflym iawn i bawb.

Yn y cyfamser, mae sefydliadau fel Coleg y Cymoedd wedi gwario degau o filoedd o bunnoedd i wella cysylltiad nhw.

Mae Lois Moreman o'r coleg yn poeni am y myfyrwyr y tu hwnt i'r gwersi.

"Mae lot o waith y myfyrwyr ar draws y coleg yn ymchwiliadau ar-lein.

"Rhaid gwneud rhan o'u gwaith ar-lein.

"Heb gysylltiad dda i'r we, mae'n rili galed iddyn nhw.

"Mae lot o'r myfyrwyr yn gwario trwy'r dydd yma'n barod.

"'Dy'n nhw ddim eisiau aros tan y nos yn gwneud gwaith nhw.

"Mae'n broblem enfawr i'n myfyrwyr."

Mae'r gwaith i wella cysylltiadau'r we yn parhau ond i'r cymunedau sy dal i aros mae pwysau ar wleidyddion i gyflymu'r broses.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.