Dyn ifanc gafodd ataliad ar y galon yn galw am ddiffibrilwyr ym mhob ysgol
Dyn ifanc gafodd ataliad ar y galon yn galw am ddiffibrilwyr ym mhob ysgol
Taith gerdded i wneud gwahaniaeth.
Y nod i ddisgyblion Ysgol Bro Teifi yw codi arian i brynu diffibrilwr ar gyfer adran chwaraeon yr ysgol.
"Ni wedi clywed am sawl stori sy'n agos i adref.
"Mae gyda ni yn y dderbynfa yn yr ysgol ond mae'n bell i ffwrdd.
"Mae lot o glybiau'n iwso'r adran chwaraeon dros y penwythnos ar ôl ysgol.
"Efallai dyle fe fod yn rhywbeth sy'n orfodol yng Nghymru achos efallai bod lot o bobl ddim yn gallu codi arian fel ni.
"Ni wedi gweld e'n her i godi'r £1,500 sydd eisiau eto."
"Chi ddim yn gwybod pryd mae'n mynd i ddigwydd a phryd bydd angen un.
"Chi ddim yn moyn fod yn y sefyllfa le chi'n gwybod bod angen un arnoch.
"Mae'n bwysig i bob un meddwl am gael un yn rhywle."
Gall ddiffibrilwr gynyddu'r siawns o oroesi o hyd at 70% os yw'n cael ei ddefnyddio o fewn pum munud o ataliad ar y galon.
Yn wahanol i Loegr, does dim rhaid i bob ysgol yng Nghymru gael un.
"Mae'n gwneud sens cael diffibrilwr ymhob man le mae lot yn ymgasglu.
"Mae'n gwneud sens mawr i gael nhw mewn ysgolion.
"Yn anffodus, mae'r diffibrilwyr mewn ysgolion lle mae 'na drasiedi wedi bod.
"Dylsen ni edrych i'r dyfodol a rhoi diffibrilwyr yn ein hysgolion."
Gofynnon ni i bob un o gynghorau sir Cymru faint o ysgolion oedd â diffibrilwyr.
O'r 22 o awdurdodau lleol gwahanol doedd gan y mwyafrif, sef 14, dim cofnod o gwbl.
Roedd y nifer ar ei uchaf yn Sir Caerffili ac ar ei isaf yn Sir Gaerfyrddin.
"O'n i'n chwarae rygbi a tua 15 munud i mewn i'r gêm a ches i ataliad ar y galon."
Mae'n ddwy flynedd ers i Steffan Howells cael ataliad ar y galon.
Bellach, mae'n lysgennad i elusen Calon Cymru.
"Os chi'n gallu cael diffibrilwr ar y person sy'n diodddef o ataliad mewn cwpl o funudau, mae'r cyfle o oroesi lot yn uwch.
"Maen nhw mor bwysig i gael mewn llefydd cyhoeddus."
Ni'n meddwl am ysgolion fatha llefydd i blant. Ydy oedran yn ffactor fan hyn?
"Mae'n duedd i feddwl bod e'n digwydd i bobl hŷn ond fel fi 'di profi, mae pobl dan 30 yn gallu cael e.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc mewn ysgolion.
"Pe bai rhywbeth yn digwydd mewn ysgol a bod dim diffibrilwr 'na byddai rhywun yn colli bywyd.
"Dylsen ni ddim fod mewn sefyllfa lle ni'n aros i rywbeth ddigwydd er mwyn cael wneud newid.
"Dylse fe fod yn ddeddf bod y peiriannau yn angenrheidiol mewn ysgolion."
Mae Plaid Cymru wedi galw i wneud e'n orfodol i ysgolion gael diffibrilwr ar bob safle fel yn Lloegr.
Dyna hefyd alwad y Ceidwadwyr sydd am weld Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn ar frys.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod pob ysgol uwchradd wedi cael cynnig diffibrilwr a'u bod nhw'n gweithio i gynyddu nifer y diffibrilwyr sydd ar gael mewn lleoliadau cymunedol.
Nôl yn Llangrannog, mae'r daith gerdded yn gyfle i roi nôl i'w hysgol a'r gymuned.
Mae'r disgyblion gam yn agosach at gyrraedd y nod.