Newyddion S4C

Pwy yw'r ymgeisydd Captain Beany sy'n sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol?

Captain Beany

Mae'n enw cyfarwydd yn etholiadau San Steffan a'r Senedd yn ne Cymru - ond pwy yw Captain Beany?

Newidiodd Barry Kirk ei enw yn swyddogol i Captain Beany yn 1991. Cafodd y cymeriad ei ysbrydoli gan brif leisydd band The Who, Roger Daltrey, a wnaeth gymryd bath mewn twb llawn ffa pob ar gyfer hyrwyddo albwm newydd.

Daeth Mr Beany sy'n 69 oed i amlygrwydd wrth iddo ail-greu'r llun a thorri record am yr amser hiraf mewn bath llawn ffa pob pan eisteddodd ynddo am 100 awr yn 1986.

Ei fenter diweddaraf yw sefyll i fod yn Aelod Seneddol yn Aberfan Maesteg yn yr Etholiad Cyffredinol ddydd Iau, ac mae'n ei ddisgrifio ei hun fel un o "bobl ecsentrig gorau Prydain."

Image
Aberafan Maesteg

 

'Spill the beans'

Dechreuodd Mr Beany o Bort Talbot ei yrfa wleidyddol yn 1991 ac wedi sefyll i fod yn Aelod Seneddol mewn nifer o etholiadau gan gynnwys Etholiad Cyffredinol 2019.

Dywedodd ei fod yn berson mae modd ymddiried ynddo, a'i fod yn gyfan gwbl o ddifrif am gynrychioli ei etholaeth.

"Dwi'n onest, mae modd ymddiried ynof. Dwi'n dweud pethau fel y maen nhw, os oes gennych chi unrhyw broblemau, mae modd i chi 'dywallt y bîns' i Captain Beany," meddai.

"Nid yw pobl yn naïf bellach. Maen nhw'n edrych ar bolisïau’r pleidiau ac yn meddwl 'chi wedi gwneud hyn o'r blaen, chi wedi gwneud addewidion nad ydych chi'n gallu cadw."

Image
Captain Beany
Captain Beany ger murlun o Heinz Beanz wedi'i addasu gyda'i enw. (Llun: Captain Beany / PA)

Er nad oes ganddo faniffesto, mae Captain Beany eisiau newid yr oedran pleidleisio i 18 mis a'i wneud yn orfodol i bawb bleidleisio.

"Dwi eisiau gostwng yr oedran pleidleisio o 18 oed i 18 mis oed, oherwydd dwi wedi cael gymaint o hwyl gyda'r genhedlaeth iau ac maen nhw'n meddwl ei fod yn ddoniol fy ngweld yn teithio o gwmpas gyda fy sticeri a baneri," meddai.

"Nhw yw pleidleiswyr y dyfodol. Efallai eu bod nhw'n cael eu dylanwadu gan wleidyddiaeth y pleidiau ond efallai bydden nhw'n cael eu dylanwadu gen i, o bosib, yn y dyfodol.

“Rwy’n credu y dylai fod yn orfodol i bawb bleidleisio, a hynny er budd democratiaeth."

Ychwanegodd ei fod yn angerddol am waith elusennol ac fe greodd gymeriad Captain Beany yn wreiddiol i “allu codi arian”.

Mae'n annog y cyhoedd i beidio â “gwastraffu” eu pleidlais yn yr etholiad eleni.

“Rydw i eisiau i bobl allan yna wybod: peidiwch â gwastraffu eich pleidlais o gwbl. 

"Os ydych chi eisiau pleidleisio i fi fel pleidlais brotest - wel, mae'n bleidlais".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.