Newyddion S4C

'Mae'n emosiynol': Cynnal gorymdaith Balchder yn nhref Caernarfon am y tro cyntaf

'Mae'n emosiynol': Cynnal gorymdaith Balchder yn nhref Caernarfon am y tro cyntaf

Fe ddaeth cannoedd ynghyd i orymdeithio drwy dref Caernarfon ddydd Sadwrn wrth i'r orymdaith Balchder gyntaf gael ei drefnu yn y dref.

Cerddodd torf liwgar drwy ganol y dref ac roedd perfformiadau gan grwpiau cerddorol hefyd.

Mae'r orymdaith yn cael ei gynnal fel rhan o ddathliad Mis Balchder yng Nghymru.

Dywedodd rhai oedd yn bresennol wrth Newyddion S4C bod gweld yr orymdaith yn dod i'r gornel o ogledd orllewin Cymru yn brofiad emosiynol.

"Dwi'n falch iawn bod yma, wnes i erioed feddwl pan o'n i’n tyfu fyny ym Mhwllheli, fyse 'na farch Balchder yn Gaernarfon," meddai un oedd yn cymryd rhan.

"Ma'n gwneud i fi deimlo'n reit emosiynol."

Image
PRIDE Caernarfon

Dywedodd un arall fu'n cymryd rhan bod ei ffrindiau o Fanceinion a Leeds wedi ymuno â hi ar yr orymdaith.

I un arall oedd yn bresennol, roedd yr orymdaith yn dangos bod Caernarfon yn dref lle mae croeso i bawb.

"Jyst rhyddid i fod chi dy hun, teimlad bod y dre' yn derbyn ni, a bod 'na jyst lle i bawb yn Gaernarfon a bod ni'n dre' lliwgar a croesawgar," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.