Newyddion S4C

Teyrnged i ddynes 'anhygoel' fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Corwen

28/06/2024
Jean Kitchen

Mae teulu dynes 89 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Corwen wedi rhoi teyrnged iddi.

Cafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru ac ambiwlans awyr eu galw i wrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar yr A5104 ger Corwen ddydd Sul 23 Mehefin.

Cafodd Jean Kitchen, oedd y gyrru un o'r ceir, ei chludo i ysbyty yn Stoke mewn ambiwlans awyr a bu farw o'i hanafiadau diwrnod yn ddiweddarach.

Dywedodd ei theulu ei bod hi'n berson "angerddol" ac yn fam a nain "anhygoel".

"Mae'n anodd crynhoi bywyd a straeon Jean Kitchen i baragraff byr gan fod modd ysgrifennu llyfr am ei bywyd," medden nhw.

"Roedd hi'n nyrs a'n fydwraig yn ei 40au ac roedd hwnnw'n swydd roedd hi'n ei garu. Roedd hi'n angerddol dros helpu eraill trwy gydol ei bywyd.

"Dwi'n meddwl y byddai hi'n dweud mai ei chyflawniad mwyaf yn ei bywyd oedd priodi ei chariad, Jim Kitchen. Roedd eu bywydau llawn anturiaethau o gwmpas y byd.

"Jean oedd y fam, nain, hen nain, modryb a ffrind mwyaf anhygoel allai unrhyw un ofyn am, a bydd hi'n gadael bwlch mawr fydd byth yn cael ei lenwi.

"Fel teulu hoffem ddweud diolch o waelod ein calonnau am yr holl gefnogaeth rydym wedi derbyn - i'r swyddogion heddlu, gwasanaeth ambiwlans, yr ambiwlans awyr a'r bobl oedd yno i'w helpu yn ystod y ddamwain."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.