Chwarter o rieni wedi 'gorfod gwneud toriadau i ariannu tripiau ysgol'
Mae bron i chwarter o rieni wedi gorfod gwneud "toriadau ariannol" er mwyn anfon eu plant ar dripiau ysgol, yn ôl awgrym canlyniadau arolwg newydd.
Dywedodd 23% o rieni a gafodd eu holi ar gyfer y cwmni yswiriant Zurich Municipal eu bod wedi gorfod torri’n ôl ar hanfodion er mwyn ariannu tripiau ysgol.
Ychwanegodd un o bob pump (20%) o'r rhai a holwyd eu bod yn teimlo “cywilydd” eu bod wedi ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r arian.
Cafodd 1,000 o rieni plant rhwng pump ac 16 oed ledled y DU eu holi gan OnePoll ym mis Mai 2024.
Yn ôl yr arolwg, mae aelodau teuluol wedi bod yn rhoi help llaw – roedd un o bob 10 (10%) o rieni wedi dweud bod neiniau a theidiau wedi talu am daith ysgol eu plentyn, ac roedd 8% o rieni wedi dweud bod modryb neu ewythr eu plentyn wedi camu i’r adwy gyda chefnogaeth ariannol.
Awgrymodd yr ymchwil hefyd fod un o bob wyth (12%) o blant wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian eu hunain i helpu i dalu am eu tripiau ysgol, ac roedd un o bob 10 (10%) o blant wedi defnyddio eu harian poced.
'Pwysig'
Er gwaethaf pryderon ariannol, roedd mwy na thraean (35%) o rieni a holwyd yn credu bod teithiau ysgol yn hollbwysig i addysg eu plant.
Dywedodd Tilden Watson, pennaeth addysg gyda Zurich Municipal: “Mae teithiau ysgol yn dod â llu o fuddion i fywydau ifanc, mae’n dorcalonnus gweld y gallai cymaint golli allan oherwydd cost.
“Gall y teithiau hyn hefyd amlygu rhai plant i leoedd a phrofiadau newydd na fyddent o reidrwydd yn eu cael gyda’u teuluoedd, felly maen nhw wir yn cynnig ffenestr i’r byd na fyddent yn ei weld fel arall.”
Mae modd i rai rhieni gael help gyda chostau sy’n gysylltiedig â’r ysgol, gan gynnwys prydau bwyd, cludiant a gwisg ysgol.
Gall rhieni hefyd gysylltu â’u hysgol yn uniongyrchol i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael.
Llun: PA