Ynys Môn: Dyn yn ei 20au yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol
27/06/2024
Mae dyn yn ei 20au wedi ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi digwyddiad ym mhentref Gaerwen, Ynys Môn.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw am 09.11 fore Iau, i stryd Rhosdir, Gaerwen i ddigwyddiad yn ymwneud â cherbyd.
Roedd ambiwlans awyr hefyd wedi glanio yn y pentref.
“Cafodd yr heddlu eu galw am 09:11 o’r gloch heddiw gan y Gwasanaeth Ambiwlans yn adrodd am ddigwyddiad yn ymwneud â cherbyd y tu allan i eiddo preswyl yn Rhosdir, Gaerwen,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
“Fe aeth y gwasanaethau brys i’r fan a’r lle ac mae dyn, yn ei 20au, wedi’i gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.”