Etholiad 2024: 'Swyddi, tai a phrisiau' yn destun pryder i etholaeth Ceredigion Preseli
Etholiad 2024: 'Swyddi, tai a phrisiau' yn destun pryder i etholaeth Ceredigion Preseli
Am olygfa i ddechrau'r daith.
Croeso i Borth, tre fach dwristaidd, arfordirol.
Wrth grwydro, dyma gwrdd â chrefftwr lleol oedd yn glir ei feddwl am gyflwr gwleidyddiaeth.
"Dw i ddim yn sicr pa ffordd i votio eto.
"Definitely wedi colli hope yn y peth.
"Mae'r partiau i gyd i'w gweld yn mixed up."
Ti'n saer coed, yn fachan lleol. Pa fath o bethau sy'n dy boeni di?
"Mae'r gwaith dw i'n cael o dwristiaid wedi mynd lawr.
"Mae'r mor yn fudr.
"Bron bob wythnos, ni efo'r sewage o Aberystwyth ac Aberdyfi.
"Dyw e ddim yn helpu pobl fel fi sy'n hoffi mynd yn y dŵr.
"Mae lot i feddwl am dan."
Ychydig i'r gogledd o fan hyn, Traeth Borth mae aber Afon Dyfi a ffin ogleddol yr etholaeth Ceredigion Preseli.
I'r de, wrth ddilyn yr arfordir fe ddewch chi at Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi yr holl ffordd lawr i Abergwaun sy'n daith o dros 70 milltir.
Ac er mwyn cael blas o gefndir yr etholaeth dyma daro mewn i'r brifysgol yn Aberystwyth.
"Hen etholaeth Ryddfrydol a Phlaid Cymru wedi gwneud yn dda yma o'r '90au ymlaen.
"Mae ehangu'r sedd wedi golygu mynd lawr i'r Preseli cyn-dir Stephen Crabb.
"Felly, mae elfen o Geidwadaeth yn dod i mewn."
I Langrannog nesaf, ac yn ôl fwy nag un yno mae angen llawer mwy o gefnogaeth gan wleidyddion er mwyn cynnal busnesau tymhorol fel hyn.
Tra bod y boblogaeth iau yn meddwl yn benodol am ddau beth.
"Ni wedi ynysu yng nghefn gwlad a 'sdim lot o bethau ar gael i ni.
"Mae swyddi, tai, prisiau, 'sdim gobaith 'da pobl ifanc yn enwedig ni sy'n moyn aros yn lleol."
"Dw i'n obeithiol fel mae pethau'n rhagweld bod newid llywodraeth.
"Gobeithio bod newidiadau er gwell yn dod mewn iddo fe."
Prin chwe milltir i'r de ac wrth brynu cinio yn Aberporth roedd gan y cwsmeriaid ddigon ar eu meddyliau hefyd.
"Dw i'n poeni am gyflwr yr NHS ar hyn o bryd.
"Dw i'n meddwl fydda i'n iawn ond yn gofidio am ddyfodol y rhai bach a bydd rhaid talu am ofal iechyd."
"Sneb digon onest a so nhw'n gweud beth yw'r real peth.
"Maen nhw'n addo'r hyn a'r llall.
"Ni gyd yn gwybod 'sdim arian a popeth yn upside down.
"So nhw'n gweud hynna."
Er yn etholaeth newydd eleni rhwng 1983 a 1997 roedd hon yn etholaeth Ceredigion a Gogledd Penfro ond sut mae trigolion Abergwaun yn teimlo'r tro hwn o ymuno a'r Cardis?
"Dw i'n hapus iawn gyda'r newid yn yr etholaeth.
"Dw i'n uniaethu mwy gyda Ceredigion na canol a de Penfro."
Ydych chi'n hyderus o gael newid yn sgîl yr etholiad?
"Rhaid i ni gael gobaith bod pethau'n mynd i newid.
"Dyw pethau byth yn mynd i newid os nad ydyn ni'n trial a rhoi croes yn y blwch ni'n meddwl sy'n mynd i wneud gwahaniaeth."
Mae 'na wahoddiad i bawb dros 18 oed oed i wneud hynny yng Ngheredigion Preseli a thu hwnt ar 4 Gorffennaf.