Honiadau betio: Y Ceidwadwyr ‘ddim yn cefnogi’ Craig Williams fel ymgeisydd
Mae'r honiadau ynglŷn â betio
ar ddyddiad yr etholiad wedi amgylchynu Craig Williams
ers bron i bythefnos.
Mae'r Comisiwn Gamblo yn ymchwilio
iddo ac ymgeisydd Ceidwadol arall.
Yn ystod y Senedd ddiwethaf roedd Craig Williams
yn agos iawn at Rishi Sunak.
Yn Ysgrifennydd Preifat
i'r Prif Weinidog wnaeth Mr Sunak ei ddisgrifio
fel ffrind annwyl yn 2022.
"I don't know if you've holidayed
in Wales or spent much time here.
"What do you think of
when you think of Wales?"
"I think of my dear friend and PPS,
Craig Williams who's sitting there."
Nawr, mae Mr Sunak wedi dweud ei fod
e'n flin iawn gyda'r honiadau betio.
Heddiw, daeth cefnogaeth y Blaid
Geidwadol i Craig Williams i ben.
Yn y Trallwng heddiw, doedd dim
llawer o arwydd o unrhyw ymgyrchu ond a oedd Craig Williams
yn ei swyddfa?
Dw i newydd siarad gydag aelod
o staff Craig Williams yn ei swyddfa yn y Trallwng.
Dywedodd nad yw Mr Williams yma
a nad yw am ymateb i ni ynglŷn â phenderfyniad
y Blaid Geidwadol sydd wedi dweud
yn dilyn ymholiadau mewnol na fydd y blaid yn ei gefnogi
fel ymgeisydd yn yr etholiad.
Ond ar ei gyfrif X,
wnaeth Mr Williams rhyddhau fideo wedi'i chyfeirio at etholwyr yn dweud bod e'n benderfynol
o barhau i sefyll fel ymgeisydd.
"I committed an error of judgement,
not an offence.
"I want to reiterate
my apology directly to you.
"I'm fully cooperating
with the routine inquiries for the Gambling Commission
and I intend to clear my name."
Doedd Mr Williams
ddim am wneud sylw ond roedd ymgeiswyr eraill
yn yr etholaeth yn feirniadol iawn.
"Mae wedi cydnabod
bod e wedi gwneud hyn.
"Allai ddim gweld sut gall o
barhau fel ymgeisydd.
"Hyd yn oed petai'n sefyll,
yr unig beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl y broses gyfreithiol,
ydy bydd is-etholiad arall.
"Ai dyna 'dan ni eisiau o ddifri?"
"Mae'n hen bryd i Rishi Sunak
wneud y penderfyniad yma.
"Gallai fe fod wedi gwneud
y penderfyniad yma pythefnos yn ôl.
"Mae'n rhy hwyr i'r bobl
sydd wedi pleidleisio yn y post."
"There's lots of disappointment here
in Craig Williams.
"When you knock on the doors, this
disappointment comes across clearly.
"It also speaks to a bigger issue.
"Rishi Sunak, the Prime Minister,
failed to act decisively.
"He did not act soon enough."
Er nad oes ganddo
gefnogaeth y blaid fydd enw Craig Williams
dal ar y papur pleidleisio ac enw'r Blaid Geidwadol
wrth ei ochr.
Os yw'n ennill,
bydd yn aelod seneddol annibynnol.
"Y broblem fawr i Rishi Sunak
yw bod e wedi colli ffrind agos. ond hefyd wedi colli dau
o'i brif drefnwyr.
"Felly, mae'r ymgyrch
wedi cael ei danseilio.
"Y cwestiwn mawr nawr ydy, a fydd
hyn yn corddi pobl i bleidleisio?
"Mae llawer yn teimlo'n
ddifater iawn am yr etholiad.
"A fydd hyn y cyflyru agwedd pobl
oedd yn petrusu?"
Mae ymchwiliad y Comisiwn Gamblo
i'r honiadau yn parhau a Craig Williams yn dweud ei fod
e'n cydweithio.
Ychydig dros wythnos sydd i fynd
cyn diwrnod y bleidlais pan ddaw effaith hyn oll
ar benderfyniad yr etholwyr ym Maldwyn a Glyndŵr yn gliriach.