Newyddion S4C

Gwylanod wedi eu saethu'n anghyfreithlon ar arfordir y gogledd

Gwylan

Mae adroddiadau bod gwylanod wedi cael eu saethu a nythod yr adar wedi eu difrodi ar arfordir y gogledd. 

Mae achosion wedi eu cofnodi ar yr arfordir yn Abergele, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cwnstabl Amy Bennett o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru: “Mae lladd, anafu neu gipio gwylanod yn fwriadol yn anghyfreithlon, oni bai am drwy drwydded.

"Fe allai'r defnydd o reiffl aer yn yr amgylchiadau hyn hefyd fod yn drosedd gynnau."

Mae adar gwyllt, eu nythod a'u hwyau yn cael eu diogelu dan adran un y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. 

Yn ôl adroddiad gan yr y RSPB ym mis Chwefror eleni, mae nifer y gwylanod Penddu, gwylanod Cefnddu Lleiaf, Gwylanod Coesddu a Gwylanod Penwaig wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. 

‘Haeddu parch’

Yn ôl swyddog gwyddonol a pholisi'r RSPCA, Rebecca Machin, mae pryderon am ddyfodol gwylanod ar draws y DU. 

"Yn anffodus, mae gan lawer o bobl farn anffafriol yn eu cylch ac rydym yn gwybod eu bod yn cael eu targedu, hyd yn oed," meddai.

"Ond mae'n rhain yn greaduriaid deallus sy'n creu cysylltiadau cymdeithasol cryf gyda'i gilydd, ac sy'n haeddu cael eu trin gyda pharch.

"Dylen ni oll fod eisiau byw mewn cymunedau ble mae ein bywyd gwyllt yn cael eu trin yn garedig."

Mae Mark Thomas, Pennaeth Ymchwiliadau RSPB y DU yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am saethu neu niweidio gwylanod yn anghyfreithlon gysylltu â’r heddlu ar unwaith ar 101.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.