Newyddion S4C

Teyrnged i ddynes 'anhygoel' fu farw yn Abersoch

25/06/2024
Caren Williams

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddynes "anhygoel" fu farw yn Abersoch yr wythnos diwethaf. 

Bu farw Caren Williams yn 33 oed ar 21 Mehefin yn dilyn cyfnod o “frwydro’n ddiflino gyda’i hiechyd meddwl,” meddai ei ffrind mewn teyrnged iddi. 

Wedi iddi sefydlu tudalen i godi arian er mwyn cefnogi teulu Ms Williams, dywedodd Gwenan Roberts yr oedd ei ffrind yn “anhygoel” a “chynnes” ac fe fydd colled fawr ar ei hol. 

“Roedd Caren yn anhygoel, fe ‘nath hi gyffwrdd a gymaint o galonnau,” meddai Gwenan Roberts. 

“Bydd gymaint o bobl yn gweld eisiau ei gwen gynnes, y ffordd yr oedd hi’n chwerthin, a’i hysbryd hardd!

“Roedd yn ferch, chwaer a ffrind cariadus i bawb, ac mi fydd ei theulu a’i ffrindiau yn ei cholli hi gymaint. 

"Yn 33 oed, roedd ganddi ei holl fywyd o’i blaen, yn ifanc am byth,” meddai Ms Roberts.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.