Newyddion S4C

Y Dywysoges Anne yn yr ysbyty 'ar ôl dioddef cyfergyd’

24/06/2024
Y Tywysoges Anne

Mae’r Dywysoges Anne yn yr ysbyty ar ôl dioddef "mân anafiadau" a "chyfergyd" (concussion) meddai Palas Buckingham.

Dywedodd y Teulu Brenhinol fod y digwyddiad ar ystâd Parc Gatcombe nos Sul a’i bod hi mewn ysbyty ym Mryste.

Yn ôl adroddiadau roedd yr anafiadau yn ymwneud â cheffyl ond nid yw'r Teulu Brenhinol wedi cadarnhau hyn.

Mewn datganiad dywedodd Balas Buckingham: “Mae’r Dywysoges Frenhinol wedi dioddef mân anafiadau a chyfergyd yn dilyn digwyddiad ar ystâd Parc Gatcombe neithiwr. 

"Cafodd Ei Huchelder Brenhinol ei chludo i Ysbyty Southmead, Bryste, fel rhagofal ar gyfer arsylwi ac mae disgwyl iddi wella'n llwyr ac yn gyflym.

“Mae’r Brenin wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac mae’n ymuno â’r teulu brenhinol cyfan wrth anfon ei gariad a’i ddymuniadau gorau at y dywysoges am wellhad buan.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.