Newyddion S4C

Heddlu’r De yn ymchwilio wedi dau ymosodiad rhyw yn Abertawe

23/06/2024
Ymosodiadau rhywiol yn Abertawe

Mae Heddlu De Cymru’n ymchwilio i ddau ymosodiad rhyw honedig a ddigwyddodd fore dydd Sul yn Abertawe.

Dywedodd y llu fod yr ymosodiadau wedi digwydd yn ardal Brynmill o'r ddinas am 04:52 ac yna am 05:00.

Ychwanegodd y llu fod y dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiadau gyda gwallt hir ac yn gwisgo siaced wen gyda darnau brown, melyn a choch arni, a throwsus brown.

Mae’r llu yn gofyn os oes unrhyw un yn adnabod y dyn neu ei leoliad i beidio â mynd ato ond i gysylltu gan ffonio 101 a dyfynnu cyfeirnod 2400207185.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.