Dyn mewn gwisg lleian wedi ymosod ar ddyn arall mewn parc gwyliau
Mae tri o bobl wedi osgoi carchar ar ôl ffrwgwd mewn parc gwyliau glan môr.
Dywedodd cyfreithiwr ar ran un o'r tri fod yr ymladd wedi dechrau pan ymosododd dyn wedi'i wisgo fel lleian ar ei gleient.
Cafodd yr heddlu eu galw i barc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn, Gwynedd, ym mis Mawrth y llynedd.
Roedd teuluoedd mewn parti gwisg ffansi mewn bar pan ddechreuodd yr helynt.
Derbyniodd Tanya Williamson, 41 oed o Rochdale, gyfnod o garchar wedi'i ohirio am 12 mis ar ôl iddi gyfaddef i gyhuddiad o affrae a dau gyhuddiad o ymosod ar yr heddlu.
Derbyniodd ei gŵr Edward, sydd hefyd yn 41 oed, o Shaw, Oldham, a Christopher Whitby, 40, o Lerpwl, ddedfrydau o wyth mis o garchar wedi’u gohirio a rhaid iddynt beidio ag yfed am 90 diwrnod o dan ofynion monitro alcohol.
Fe gyfaddefodd y ddau i gyhuddiad o affrae.
Fe fydd yn rhaid i'r tri dalu iawndal o £200.
Dywedodd y Barnwr Nicola Saffman yn Llys y Goron Caernarfon wrth y tri: “Roedd yna blant yn bresennol ac roeddech chi i gyd wedi meddwi."