Pride Cymru yn dathlu chwarter canrif ers ei sefydlu
Mae degau o filoedd o bobl wedi dod at ei gilydd i ddathlu digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae chwarter canrif ers i'r digwyddiad gael ei gynnal gyntaf yn 1999, ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn ganolbwynt i'r gymuned LHDTC+.
Fe fydd gorymdaith yn cael ei chynnal drwy'r brifddinas, ac mae digwyddiadau'n cael eu cynnal yn y castell dros gyfnod o ddeuddydd.
Mae'r artistiaid eleni'n cynnwys y Vengaboys, Heather Small, a Jake Shears o'r band Scissor Sisters.
Mae'r digwyddiad wedi tyfu'n sylweddol ers 1999.
Y flwyddyn honno fe gofnododd Heddlu De Cymru gynnydd mewn troseddau casineb tuag at y gymuned LHDT+ a phenderfynodd swyddogion weithio’n agos gyda nhw yn y gobaith o greu Caerdydd fwy diogel.
O ganlyniad, cynhaliwyd y Mardi Gras Caerdydd cyntaf erioed y flwyddyn honno – sydd bellach wedi datblygi i fod yn Benwythnos Mawr Pride Cymru.
Er y dathlu, dywed y trefnwyr bod cryn waith eto i'w wneud er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Dywedodd Pride Cymru, yr elusen sydd yn gyfrifol am y digwyddiad: "Er gwaethaf rhywfaint o gynnydd mewn deddfwriaeth, mae’r frwydr dros gydraddoldeb a chynhwysiant i’r gymuned LHDT+ ymhell o fod ar ben.
"Mae rhannau o'n cymuned yn dal i ddioddef. Er enghraifft, mae pobl drawsryweddol yn dal i gael trafferth cael mynediad at ofal iechyd o achos stigma; mae cynnydd mewn troseddau casineb sy’n targedu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned; mae problemau iechyd meddwl ar gynnydd ac mae iaith rhyw-gynhwysol yn parhau i gael ei hanwybyddu ar draws y gweithle ac mewn cymdeithas."
Llun: S4C