
Cwymp mewn cefnogaeth i annibyniaeth 'yn y byr dymor' os yw Llafur yn dod i rym
Mae’n bosib y gallai Llywodraeth Lafur yn San Steffan leihau'r gefnogaeth gyhoeddus i annibyniaeth yng Nghymru – ond dim ond yn y tymor byr, meddai cadeirydd mudiad YesCymru.
Mae gorymdaith annibyniaeth wedi ei threfnu ar y cyd rhwng mudiad YesCymru ac AUOB Cymru yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn.
Gydag arolygon barn yn awgrymu mai Llafur fydd y blaid fwyaf yn San Steffan ar ôl 4 Gorffennaf, dywedodd cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths, wrth Newyddion S4C ei fod yn credu y bydd cefnogaeth i annibyniaeth yn parhau i dyfu yn yr hir dymor.
Roedd hynny oherwydd bod gan ddatganoli'r un gwendidau pa bynnag blaid oedd mewn grym yn San Steffan, meddai.
“Mae’n bosib y cawn ni Lywodraeth Lafur a bydd pobol yn meddwl ‘o grêt mae Cymru yn saff, does dim rhai poeni am annibyniaeth’,” meddai.
“Ond fydd hi ddim yn hir nes y bydd realiti hynny yn taro. Felly os oes 'na gwymp o gwbl mewn cefnogaeth fe fydd yn gwymp tymor byr.
“Fe fydd gwleidydd Llafur Cymreig, Beth Winter, [cyn Aelod Seneddol Cwm Cynon] yn siarad yn yr orymdaith.
“Mae un person fel yna gyfwerth a 100 o wleidyddion Plaid Cymru am ei fod yn cario lot mwy o bwysau.
“Os yw gwleidyddion Llafur yn cymryd rhan fe fydd yn gwneud i aelodau Llafur ystyried.”
Dywedodd bod problemau Yes Scotland yn dangos peryglon clymu mudiad yn rhy agos at un blaid wleidyddol.
“Mae angen i ni fod yn fudiad trawsbleidiol yn hytrach na leinio lan gydag un blaid,” meddai.
“Mae angen i ni gael apêl eang nid at y cenedlaetholwyr traddodiadol yn unig, ac apelio at hefyd at bobol sydd wedi cefnu ar wleidyddiaeth yn llwyr.”

Cwymp aelodaeth
Mae wedi bod yn gyfnod heriol i YesCymru dros y blynyddoedd diwethaf, gyda swydd y Prif Weithredwr Gwern Gwynfil yn dod i ben ym mis Rhagfyr oherwydd pryder am ddyfodol ariannol y mudiad.
Dywedodd Phyl Griffiths bod cwymp mewn aelodaeth wedi bod ond fod hynny’n bennaf “oherwydd problemau technegol”.
Roedd hi bellach yn bryd “codi proffil YesCymru” unwaith eto ar ôl anghytuno mewnol am gyfeiriad gwleidyddol y mudiad, meddai, ac roedd yn “hyderus iawn” bod YesCymru bellach wedi gadael y cyfnod o helbul mewnol y tu ôl iddyn nhw.
“Mae’n anochel dwi’n meddwl mewn mudiad gyda chymaint o aelodau bod rhai pobl wedi ceisio ei symud i gyfeiriadau arall yn lle canolbwyntio ar yr hyn oedd yn ei huno ni,” meddai.
“Mae yna dal dros 6,000 o aelodau a pan ydan ni’n cysylltu gyda chyn aelodau mae nifer yn dweud eu bod nhw wedi meddwl eu bod nhw’n dal yn aelodau.”

‘Ystyried’
Er ei fod o'r farn fod angen i YesCymru fuddsoddi mwy o amser ac adnoddau mewn gwaith ar lawr gwlad, roedd y gorymdeithiau yn parhau yn bwysig, meddai Phyl Griffiths.
“Maen nhw’n lliwgar, yn deuluol, yn hapus, maen nhw’n weledol ac maen nhw’n gynhwysol,” meddai.
“Y prif beth ydi eu bod nhw’n ddathliad yn lle protest. Does yna ddim lot o straeon newyddion da positif mewn gwleidyddiaeth ar hyn o bryd.
“Dydyn ni ddim eisiau cwtogi'r gorymdeithiau. Ond mae yna le i ni fod yn fwy clyfar yn strategol gyda’n gwaith ymgysylltu fel arall.
“Mae angen i ni sgwrsio gyda phobol - a hyd yn oed os ydyn nhw yn erbyn y syniad eu bod nhw’n ystyried y rhesymau pam.”

Ymateb
Wrth ymateb i'r orymdaith YesCymru, dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod nhw’n credu mewn “ffederaliaeth a datganoli, ond nid ydym yn credu mewn gosod mwy o rwystrau neu ffiniau".
"Byddwn yn parhau i wthio am fwy o bwerau datganoledig yma yng Nghymru, gan roi llais i’n cymunedau lleol yn y ffordd y mae ein gwlad yn cael ei rhedeg," medden nhw.
Dywedodd Phil Davies, dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru: “Gyda’r llywodraeth Lafur ddisgwyliedig yn bwriadu slamio’r brêcs ar ddatganoli, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n dod allan i fynnu ein hawl i benderfynu ar ddyfodol Cymru.
"Roedd ein maniffesto a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn ailddatgan ein cred mai’r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru yw drwy adael gwladwriaeth San Steffan.”
Mae Newyddion S4C hefyd wedi holi Llafur Cymru, Plaid Cymru, a Cheidwadwyr Cymru am ymateb i orymdaith YesCymru.
Yn eu maniffesto nhw dywed y Ceidwadwyr Cymreig: "Rydym yn parhau’n gadarn yn ein cefnogaeth i’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i setliad cyfansoddiadol y DU."
Dywed Plaid Cymru yn eu maniffesto nhwythau: "Mae’n uchelgais i’w weld yn ein hyder y gall, ac y dylai Cymru fod yn gyfrifol am ei thrywydd ei hun, fel cenedl annibynnol sy’n edrych tuag allan."
Yn eu maniffesto Cymreig dywed Llafur Cymru eu bod nhw'n gefnogol i ddatganoli, ac y bydd llywodraeth Lafur yn San Steffan yn fodd o "gryfhau'r berthynas rhwng llywodraethau San Steffan a Chymru".
Bydd dau gyn-aelod Seneddol Llafur yn areithio ar ddiwedd yr orymdaith, Beth Winter, AS Cwm Cynon rhwng 2019-2014 a Gwynoro Jones, cyn AS Caerfyrddin rhwng 1970 a 1974.
Dywedodd Beth Winter: “Rwy’n edrych ymlaen i siarad yn yr Orymdaith dros Annibyniaeth yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn, sydd wedi ei threfnu gan YesCymru a Pawb Dan Un Faner Cymru. Ac yn gyffrous i rannu llwyfan â’r trysor cenedlaethol, Dafydd Iwan."
Dywedodd Gwynoro Jones: “Dros y ddegawd diwethaf bum yn eiriolwr dros Gymru rydd a sofran o fewn cymuned y cenhedloedd. Yr her yw sut i gyflawni hyn yn yr 21ain ganrif.
"Mae wedi cymryd y rhan orau o gan mlynedd i gyrraedd Senedd sydd yn dal â chyfyngiadau ariannol a chyfreithiol hyd yn oed - cymerodd ymgyrchu penderfynol a di-ildio i gyrraedd lle rydym nawr. I gyflawni Cymru Sofran bydd angen ymgyrchu hyd yn oed fwy penderfynol byth.”
Hefyd yn cyfrannu fydd Cefin Campbell, Aelod o Senedd Cymru dros Blaid Cymru, Dafydd Iwan, yr awduron Mererid Hopwood a Hefin Wyn, y cantorion Mari Mathias a Gwilym Bowen Rhys, a’r dylanwadwr Bethany Davies.