Newyddion S4C

Dathliadau ar y gweill yn y Bala i nodi 700 mlynedd o hanes

21/06/2024
Sgarff y Bala

Bydd arddangosfa arbennig yn agor yn y Bala dros y penwythnos fel rhan o ddathliadau’r dref wrth iddi nodi ei 700 mlwyddiant.

Mae Mehefin 2024 yn nodi pen-blwydd arbennig arwyddo siarter frenhinol oedd yn rhoi statws bwrdeistref rydd i’r Bala yn 1324.

Mae’r arddangosfa yn rhan o ymgyrch Y Bala 700 – Yma o Hyd i ddathlu hanes y dref a’r ffaith ei bod ‘yma o hyd’ saith canrif ar ôl cyhoeddi’r siarter.

Mae wedi ei sefydlu gan bwyllgor gwirfoddol gyda chefnogaeth a chyllid gan Gyngor Tref y Bala.

Eisoes mae’r grŵp wedi bod yn harddu’r dref gyda blodau a basgedi crog, creu taith hanes rithiol gyda chodau QR, trefnu Parkrun mewn gwisg ffansi, cynhyrchu sticeri a baneri a chynnal boreau coffi. 

Ac, mewn teyrnged i ddiwydiant oedd yn hynod bwysig i’r ardal ers talwm, mae nifer wedi bod yn dathlu’r grefft o weu.

Dathliadau ar y gweill

Roedd y Bala yn arfer bod yn enwog am ei diwydiant gwlân, ac am weu sanau yn arbennig yn y 18fed ganrif; dros y misoedd diwethaf mae rhai o’r trigolion wedi rhoi eu gweill ar waith unwaith eto, y tro hwn i greu degau o sgarffiau.

Cafodd sgarff 250 metr o hyd ei gosod o amgylch Tomen y Bala - hen gastell mwnt a beili sydd ym mhen dwyreiniol y dref wythnos yn ôl.

Dywedodd Lowri Rees Roberts, aelod o bwyllgor Y Bala 700 – Yma o Hyd: “Mae Clwb Gweu'r Bala a Chlwb Gweu Llanuwchllyn ynghyd â nifer o unigolion o'r ardal wedi bod yn brysur gyda'u gweill yn gweu degau o sgarffiau dros y chwe mis diwethaf ac wedi eu gwnïo gyda'i gilydd i greu un sgarff hir.

“Bwriad y gweithgaredd yw pontio'r cenedlaethau yma yn y Bala a braf fydd gweld y disgyblion ifanc a'r trigolion yn dod at ei gilydd i fwynhau dathliadau lliwgar Bala 700.”

“Mae’r prosiect wedi bod yn lot o waith i’r rhai sy’n gweu ond rydyn ni wedi cael lot o gefnogaeth gan bobl leol sydd wedi bod yn cyfrannu gwlân a sgarffiau gorffenedig i’r trefnwyr,” meddai Keira Davies, sydd wedi bod yn helpu i gydlynu casglu’r sgarffiau.

Bydd y sgarff yn cael ei gadael allan i bobl ei mwynhau dros yr haf eglura Keira ac yna’n cael ei gwahanu a’i golchi a’r sgarffiau unigol yn cael eu rhoi i elusennau ar gyfer y digartref.

I aros ar y thema gwlân, mae aelodau’r clwb crefftau wedi bod yn ‘bomio gwlân’ yn y dref gyda’u gwaith gweu a chrosio creadigol i’w weld yn addurno’r stryd fawr ers rhai wythnosau. 

Digwyddiadau eraill drwy 2024

Bydd gweithgareddau Y Bala 700 – Yma o Hyd yn para weddill y flwyddyn gyda dathliadau hanesyddol, gorymdaith lusernau, cyngherddau a llawer mwy ar y gweill. Yn ogystal mae arddangosfa newydd sbon o hanes y dref wedi ei threfnu gan gymdeithas Cantref.

Mae’r arddangosfa yn agor ddydd Sadwrn 22 Mehefin yng Nghanolfan y Plase a bydd yn para tan 12 Gorffennaf.

Bydd modd gweld llun o’r copi o’r siarter hynafol sy’n cael ei gadw yn Archifau Cenedlaethol Llywodraeth y DU yn Kew, Surrey.

Beth oedd Siarter 1324?

Roedd y Siarter a roddodd Edward II yn 1324 yn rhoi statws bwrdeistref rydd i'r Bala. Roedd hyn yn rhoi tir, cartref a hawliau i’w dinasyddion newydd a fyddai’n deyrngar i frenin Lloegr.

Roedd yn rhoi hawl i’r bobl ddaeth i fyw i’r dref i ethol maer a beilïaid, sefydlu carchar annibynnol a chynnal marchnadoedd a dwy ffair flynyddol. 

Roedden nhw hefyd yn cael adeiladu wal o amgylch y dref i’w hamddiffyn, er nad oes tystiolaeth bod hyn erioed wedi digwydd. 

Llun: Keira Davies

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.