Newyddion S4C

Pryder bod agwedd Llywodraeth Cymru yn 'llugoer' tuag at addysg Gymraeg

20/06/2024
Lynne Neagle

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio y gallai Llywodraeth Cymru droi ei chefn ar Fil Addysg Gymraeg "radical", gan gyhuddo'r Ysgrifenydd Addysg Lynne Neagle o "ddiffyg ymrwymiad ac agwedd llugoer” tuag at y Gymraeg.

Bydd disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r bil yn yr wythnosau nesaf, a fydd yn anelu at gynnydd sylweddol mewn darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, yn dilyn cyhoeddiad ymateb Jeremy Miles i ymgynghoriad cyhoeddus ar bapur gwyn ar y pwnc ar 21 Chwefror.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cael ei wanhau yn sgil yr hyn mae nhw'n ddisgrifio fel  datganiadau "llugoer" gan Lynne Neagle, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, ynglŷn â'r  iaith, a’i amharodrwydd i gyfarfod gyda’r mudiad.

Mae'r mudiad yn dweud eu bod wedi gwneud sawl cais i gwrdd â Ms Neagle ers mis Ebrill, ond heb gael ymateb.

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith bod hyn yn destun pryder.

“Anfonon ni ein cais gwreiddiol am gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd ar 12 Ebrill eleni, ac er ein bod wedi anfon sawl cais arall ers hynny, dydyn ni ddim wedi clywed yr un gair ganddi," meddai.

“Gydag agwedd mor llugoer tuag at yr iaith mewn datganiadau ar lawr y Senedd, a diffyg parodrwydd i gyfarfod â ni, mae lle i bryderu y bydd Llywodraeth Cymru yn troi ei chefn ar Fil Addysg Gymraeg radical, fel mae wedi gwneud eisoes gyda chonglfeini radical eraill o'i gweledigaeth mewn ymgais i blesio Plaid Lafur Llundeinig Keir Starmer, ar draul pobl Cymru.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb i sylwadau Cymdeithas yr Iaith.

Cyfle 'unwaith mewn cenhedlaeth'

Yn natganiad cyntaf Lynne Neagle ar lawr y Senedd fel yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ar 21 Mawrth, dim ond un frawddeg oedd yn cyfeirio at y Gymraeg, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Dywedodd Toni Schiavone ei fod yn annerbyniol nad ydy Ms Neagle wedi dweud mwy am addysg iaith Gymraeg ers iddi gael ei phenodi.

“Mae gan y Llywodraeth gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid ein cyfundrefn addysg a rhoi’r Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru gyda’r Ddeddf Addysg Gymraeg. 

"Mae hi’n chwithig ofnadwy felly nad yw’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, fyddai â chyfrifoldeb dros weithredu’r Bil, yn dangos unrhyw frwdfrydedd drosto na hyn yn oed ymwybyddiaeth ohono.

“Yn ehangach, mae hi’n annerbyniol nad yw hi'n dweud mwy nag un frawddeg tocenistaidd a chyffredinol am y Gymraeg mewn datganiad ar ei ‘blaenoriaethau’ ar gyfer addysg. Yr unig gasgliad posib yw nad yw’r Gymraeg yn flaenoriaeth iddi.”

Llun: Senedd TV

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.