Newyddion S4C

Gobaith i Gaernarfon a'r Seintiau wynebu clybiau mawr o Ddwyrain Ewrop

19/06/2024
Caernarfon

Bydd Caernarfon a'r Seintiau Newydd yn wynebu dau o enwau mawr Dwyrain Ewrop os y byddan nhw'n llwyddo i ennill eu gemau yn y rownd gyntaf o'r cystadlaethau Ewropeaidd.

Legia Warsaw o wlad Pwyl fyddai gwrthwynebwyr y Cofis yn ail rownd Cynghres Ewropa,  a taith i Hwngari i wynebu Ferencvaros fyddai gwobr TNS yn ail rownd Cynghrair y Pencampwyr. 

Bydd y Caneris yn herio Crusaders o Ogledd Iwerddon yn y rownd gyntaf ar Orffennaf 11 a 18.

Dyma fydd ymddangosiad cyntaf y clwb yn Ewrop wedi iddyn nhw guro Penybont yng ngemau ail-gyfle y Cymru Premier JD.

Mae tri thîm arall o Gymru hefyd yn cystadlu yng ngemau rhagbrofol cystadlaethau Ewrop.

Cafodd yr enwau eu tynnu allan o’r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol cyntaf Cynghrair y Pencampwyr UEFA a Chyngres Europa ddydd Mawrth.

Yng Nghynghrair y Pencampwyr, bydd Y Seintiau Newydd yn herio pencampwyr Hwngari, Ferencváros os ydyn nhw'n curo FK Decic, y tîm enillodd y bencampwriaeth yn Montenegro y tymor diwethaf.

Pe bai'r Bala yn ennill eu gemau yn erbyn Paide Linnameeskond o Estonia fe fyddan nhw'n herio Stjarnan o Wlad yr Iâ neu Linfield o Ogledd Iwerddon.

HSK Zrinjski Mostar o Bsnia a Herzegovina fydd gwrthwynebwyr Cei Connah pe bai nhw'n trechu NK Bravo o Slofenia.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.