
Eglwys ym Morfa Nefyn yn ‘mynd yn groes i’r duedd’ wrth ail agor ar ôl degawd

Yn ystod cyfnod pan mae eglwysi yn cau ar draws Cymru mae un yng Ngwynedd yn “mynd yn groes i’r duedd” drwy ail agor ar ôl degawd.
Mae Eglwys y Santes Fair ym Morfa Nefyn wedi ei hail agor gan Archesgob Cymru ar ôl ymgyrch gan y gymuned yn lleol.
Mae’n golygu bod yr eglwys wedi agor ddwywaith, unwaith yn 1870 ac eto yn 2024.
Dywedodd y ficer, y Parchedig Kevin Ellis, sydd â naw eglwys yn ei blwyf, Bro Madryn, mai “brwdfrydedd" mudiad Cyfeillion Santes Fair oedd wedi newid ei feddwl.
"Mater yw’r Esgob yw dweud ie neu na," meddai.
Yn yr achos hwn Esgob Bangor, sydd hefyd yn Archesgob ar Gymru, oedd gyda phenderfyniad i'w wneud am yr eglwys.
“Roedd cau'r eglwys wedi annog pobol i weithredu,” meddai'r Parchedig Kevin Ellis.
“Mae yna gydweithio wedi bod rhwng y gymuned a’r eglwys. Doedd y gymuned ddim yn meddwl ei bod hi ar ben i’r eglwys ym Morfa Nefyn felly beth am roi tro arni.”

‘Lwmp’
Dywedodd un o’r rheini fu'n gweithio i ail agor yr adeilad, Annie Sanson, ei bod wedi ei siomi yn fawr pan gaeodd yr eglwys ei drysau.
Roedden nhw wedi parhau i gynnal gwasanaethau achlysurol yno, gan gynnwys dros gyfnod y Nadolig a’r Pasg, pan oedd yr eglwys ar gau yn swyddogol meddai.
“Roedd yna ffydd a gobaith,” meddai.
“Mae’r Eglwys hyd yn oed yn well nawr ein bod ni wedi ei hail-agor yn swyddogol.
“Roedd gen i lwmp mawr yn fy ngwddf.”
Lluniau gan Gyfeillion Eglwys y Santes Fair.