
Taylor Swift yng Nghaerdydd: Beth allwn ni ei ddisgwyl?
Bydd Taylor Swift yn dod i brifddinas Cymru am y tro cyntaf yr wythnos hon.
Fel rhan o'i thaith Eras, bydd y gantores Americanaidd yn perfformio yn Stadiwm Principality nos Fawrth.
Ac mae disgwyl i hyd at 70,000 o 'Swifties' [dilynwyr Swift] heidio i'r cyngerdd i'w gweld.
Mae Swift eisoes wedi perfformio yng Nghaeredin a Lerpwl am dair noson o'r bron yn y ddwy ddinas..
Ond am un noson yn unig y bydd yn perfformio yng Nghaerdydd.
Bydd y band pop-pync Paramore yn ei chefnogi nos Fawrth.
Pryd fydd y cyngerdd yn dechrau?
Ar gyfer tocynnau VIP, bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 15:00. Bydd y gatiau yn agor am 16:00 ar gyfer tocynnau mynediad cyffredinol.
Yn ôl Stadiwm Principality, bydd y cyngerdd yn dechrau am 17:45 gyda Paramore yn ei agor.
Mae Swift yn debygol o ddechrau perfformio rhwng 19:00 a 19:30, ond nid yw'r amser wedi ei gadarnhau.
Sut allwn ni gyrraedd y cyngerdd?
Mae'r rhai sy'n teithio i'r cyngerdd wedi cael eu rhybuddio i ddisgwyl traffig trwm ar draffordd yr M4 i mewn i Gaerdydd.
Mae Stadiwm y Principality wedi dweud wrth bobl i gynllunio ymlaen llaw, gan wirio nad oes unrhyw broblemau ar wefan Traffic Wales cyn teithio.
Mae modd parcio car yng Ngerddi Sophia trwy'r dydd am £20.
Ond mae'r stadiwm wedi annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yn bosib.
Bydd nifer o lonydd yng Nghaerdydd ar gau, gan gynnwys Ffordd Scott Road Stryd y Parc o 07:00.
Yn ddiweddarach yn y dydd, mae disgwyl i lonydd yng nghanol y brifddinas gau o 12:00 hyd at 00:00.

Er mwyn lleihau'r traffig yng nghanol y ddinas, bydd gwasanaeth parcio a theithio yn cael ei weithredu gan gyngor Caerdydd o Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae'r safle tua 15 munud o ganol y ddinas, a'r gost yw £15 yn daladwy ar y diwrnod gydag arian parod yn unig.
Mae disgwyl i'r bws cyntaf adael am 09:00 a bydd teithwyr yn cael eu gollwng a'u codi gyferbyn â Stadiwm Principality.
O ran rheilffyrdd, bydd Trafnidiaeth Cymru a GWR yn darparu capasiti ychwanegol ar drenau i mewn ac allan o Gaerdydd.
Ond mae'r cwmnïoedd yn rhybuddio y bydd y gwasanaethau rheilffordd ar draws de Cymru yn brysur iawn.