Newyddion S4C

Sw'n ailgartrefu creaduriaid ar ôl methu sicrhau trwydded anifeiliaid

01/07/2021
Sw

Mae perchnogion sw yng Ngheredigion wedi gorfod ailgartrefu anifeiliaid yn Lloegr gan nad oeddynt wedi llwyddo i sicrhau Trwydded Anifeiliaid Gwyllt Peryglus gan y cyngor lleol.

Ym mis Ebrill eleni, derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion gais am drwydded gan Mr a Mrs Tweedy, perchnogion busnes newydd o’r enw’r ‘Animalarium’ yn Y Borth.

Roedd cwmni blaenorol Mr a Mrs Tweedy, Borth Wild Animal Kingdom Ltd, wedi cael ei ddirwyn i ben gan y Llysoedd yn gynharach eleni.

Trefnodd y Cyngor arolygiad ar 12 Mai 2021 fel rhan o'u cais am Drwydded Anifeiliaid Gwyllt Peryglus.

Yn dilyn yr arolygiad, penderfynodd yr awdurdod lleol beidio â rhoi Trwydded Anifeiliaid Gwyllt Peryglus iddyn nhw, ac y byddai'n rhaid iddynt symud eu primatiaid a’u hantelopiaid y gors (antelopiaid â chyrn) o'r safle yn yr Animalarium.

Ar 15 Mehefin 2021, hysbyswyd y Cyngor bod y primatiaid i gyd wedi cael eu symud i Monkey World yn Dorset.

Mae'r perchnogion hefyd wrthi’n cwblhau trefniadau i symud yr antelopiaid medd y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Cyllid a Chaffael a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’r Cyngor Sir yn hynod ddiolchgar am gymorth a phroffesiynoldeb Monkey World wrth ailgartrefu’r epaod a hefyd The Aspinall Foundation a ailgartrefodd ddau lew yn gynharach eleni.”

Mae swyddogion y cyngor yn monitro'r sefyllfa, ac mae Mr a Mrs Tweedy "yn cymryd camau i wneud gwelliannau i sicrhau bod materion lles anifeiliaid yn cael eu rheoli a'u trin yn briodol" medd yr awdurdod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.