Plentyn wedi ei saethu mewn parc antur dŵr
Mae bachgen wyth oed mewn cyflwr difrifol ar ôl iddo gael ei saethu yn ei ben mewn parc antur dŵr yn nhalaith Michigan yn America.
Mae ei fam hefyd mewn cyflwr difrifol, tra bod ei frawd pedair oed mewn cyflwr sefydlog ar ôl dioddef anaf i'w goes, a hynny ar ôl i ddyn arfog ddechrau saethu yn y parc mewn maestref yn Detroit ddydd Sadwrn.
Digwyddodd y saethu ychydig ar ôl 5pm yn y Brooklands Plaza Splash Pad yn ardal Rochester Hills o'r ddinas.
Dywedir bod chwe dioddefwr arall yn cynnwys gŵr a gwraig, a dyn 78 oed, ond eu bod oll mewn cyflwr sefydlog.
Mae'r dyn sy'n cael ei amau o achosi'r anafiadau, wedi ei ddisgrifio fel dyn gwyn 42 oed.
Roedd wedi gadael y parc antur yn dilyn y saethu, ond fe gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref ei hun yn ddiweddarach.
Mae'r heddlu yn credu ei fod wedi cymryd ei fywyd ei hun.