Wyth o filwyr Israel wedi cael eu lladd yn Gaza
Mae Byddin Israel wedi cadarnhau bod wyth o'u milwyr wedi cael eu lladd yn Gaza.
Cafodd y milwyr eu lladd mewn ffrwydrad yn ardal Tal al-Sultan o ddinas Rafah ddydd Sadwrn.
Mae Israel wedi mynnu bod yn rhaid iddi sicrhau rheolaeth o Rafah er mwyn ennill y rhyfel, a ddechreuodd wedi ymosodiad Hamas ar y wlad ar 7 Hydref.
Fe gafodd 1,200 eu lladd a 252 o bobl eraill eu cymryd yn wystlon yn ystod yr ymosodiad.
Mae o leiaf 37,000 o bobl wedi marw ar draws Gaza ers dechrau'r rhyfel, yn ôl y weinyddiaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas.
Y gred yw bod yr wyth fu farw wedi bod yn gyrru mewn confoi yn dilyn ymosodiad dros nos yn erbyn Hamas.
Mae un o'r milwyr wedi'i enwi fel Capten Wassem Mahmoud, a oedd yn 23 oed.
Mae disgwyl i'r saith arall gael eu henwi maes o law.
Dywedodd y Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu fod y wlad wedi talu “pris syfrdanol yn ein rhyfel cyfiawn i amddiffyn ein mamwlad”.
Ond dywedodd y byddai ei wlad yn parhau i ymladd yn y rhyfel “i sicrhau ein bodolaeth a’n dyfodol”.