Clwb Pêl-droed Wrecsam yn penodi rheolwr newydd
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi enw eu rheolwr newydd.
Bydd Phil Parkinson yn ymuno â'r tîm ar gytundeb o 12 mis, gan lenwi esgidiau Dean Keates a ddaeth i ddiwedd ei gytundeb gyda'r clwb fis diwethaf.
Mae Parkinson, 53, wedi gweithio fel rheolwr ers bron i 20 mlynedd i chwech o glybiau gwahanol.
Mae wedi llwyddo i sicrhau tri dyrchafiad i glybiau gwahanol, gan gynnwys Bradford City yn 2012/13 a Bolton Wanderers yn 2016/16.
Ers hynny mae wedi rheoli CPD Sunderland.
Dywedodd cyd-gadeiryddion y clwb, Rob McElhenney a Ryan Reynolds: “Roedd y broses a gafodd ei arwain gan Les Reed, Shaun Harvey, Humphrey Ker a Fleur Robinson yn drylwyr, a chawsom ein cyflwyno gyda nifer o opsiynau da, a fyddai oll wedi bod yn rheolwyr credadwy i'r clwb.
"Hoffem ddiolch i bawb wnaeth wneud cais am y rôl, ond unwaith i ni glywed fod gan Phil ddiddordeb, fo oedd y dyn i ni ac fe gawsom ni ef.
"Mae gan Phil nod i gael dyrchafiad, ond mae'n ymwybodol o'n huchelgeisiau ar gyfer y clwb, ac wedi derbyn pobl elfen o'n gweledigaeth."
'Penderfyniad hawdd'
Dywedodd Parkinson: "Unwaith i mi glywed cynlluniau'r cadeiryddion, roedd y penderfyniad i ymuno â Wrecsam yn hawdd iawn.
"Mae gennym lawer i’w wneud i fod yn barod ar gyfer Awst 21, ac yn y saith wythnos nesaf y nod yw ychwanegu chwaraewyr o safon at y garfan, a chreu amgylchedd a diwylliant sy’n rhoi’r cyfle gorau posibl inni gael dyrchafiad.”