Newyddion S4C

Cardiau adnabod arbennig yn helpu gofalwyr ifanc

14/06/2024

Cardiau adnabod arbennig yn helpu gofalwyr ifanc

Mae gofalwyr ifanc weithiau'n teimlo bod nhw'n cael eu hanghofio ond sydd â digon o gyfrifoldebau.

"Dw i'n gofalu am Dad sy'n anabl a brawd bach fi â heart condition."

"Mae ddim yn anodd achos fi 'di bod yn gwneud e'n hir ond mae'n anodd gwybod bod fi ffili gwneud lot mas tu fas."

"Dw i'n gofalu am Mam a'n chwiorydd ac yn coginio a gwneud y dishes.

"Rhai o'r amser, fi'n helpu Mam gwneud y dishes a tacluso'r ty ac am rai o'r amser, mae'n sownd yn y gwely."

Tair blynedd yn ôl daeth y cardiau arbennig i helpu adnabod gofalwyr ifanc yn hawdd a'u galluogi i gasglu moddion i'w teulu o fferyllfeydd gofyn am help gan eu hathrawon a chael buddion a gostyngiadau.

"Dw i 'di defnyddio fe un neu dwywaith i bigo lan prescriptions."

"Mae'n helpu fi mynd i'r chemist i ôl prescription Mam fi."

"Gobeithio byddai'n cael ID card ac os mae angen galla i bigo lan chwiorydd fi os mae Mam yn sownd yn y gwely."

Yma, yn Ysgol Cwm Rhymni, roedd clod am y gwaith mae'r ysgol yn gwneud i gefnogi eu gofalwyr ifanc.

"The Young Carers ID Card is a way of young carers identifying themselves and being able to be offered the level of support that they need.

"This school has been particularly good at promoting the ID card and supporting young carers in the school."

"Ni'n gallu adnabod nhw, tracio nhw a monitro eu cynnydd yn yr ysgol a sicrhau bod nhw'n cael mynediad i'r pethau a'r profiadau cywir.

"Ni ddim yn gwneud fuss amdano fe ond heb y rheina maen nhw ffili cael mynediad i'r stwff sydd angenrheidiol arnynt."

O amser ychwanegol i wneud gwaith cartref i gael seibiant yn yr ystafell les mae'r cardiau yn achubiaeth i nifer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.