Newyddion S4C

Cyfyngiadau’n cael ‘effaith mawr’ ar briodasau

01/07/2021

Cyfyngiadau’n cael ‘effaith mawr’ ar briodasau

Mae cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi cael “effaith mawr” ar gwmnïau priodasol Cymru, yn ôl perchennog busnes yn y maes.

Dywedodd Meirion Dyer, sy’n berchen ar Fferm Caerhyn, yn Llangadog wrth Newyddion S4C eu bod nhw ond wedi cynnal tair priodas yno ers dechrau’r pandemig.

“Gelon ni un ym mis Medi llynedd, gelon ni un pythefnos yn ôl a ma’ un ‘fory nawr ‘da ni a wedyn ar ôl, gobeitho, canol Gorffennaf mae’n mynd i agor lan”, dywedodd.

Ychwanegodd Mr Dyer fod y cyfyngiadau yn dal i gael effaith ar briodasau yng Nghymru: “Ar y foment, y broblem mwya’ yw bo nhw methu dawnsio yn y priodasau hyn, ma’ nhw’n fodlon i’r briodferch a’r priodfab i ddawnsio ‘da’i gilydd ond ‘sneb yn gallu dawnsio wedyn.  

“Yr ymateb mwya’ ni’n cael mas o’r rhai sy’n cael priodasau nawr yw bo nhw methu dawnsio”.

Ychwanegodd Mr Dyer fod gweld cefnogwyr pêl-droed yn cael mynychu gemau yn ddiweddar wedi gwneud iddo gwestiynu’r cyfyngiadau presennol.

“Ma’ miloedd yn mynd i weld y pêl-droed a dyw e ddim yn ‘neud sens really”, ychwanegodd. 

“Rheolau yw rheolau fi’n gwbod ond fi’n credu dylen nhw neud bo nhw’n gallu dawnsio tu allan, nele fe lot o wahaniaeth”.

‘Priodasau ar yr agenda’

Mae Tasglu Priodasau’r DU yn dweud eu bod yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru’n galed ar y mater. 

Dywed y tasglu eu bod wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac aelodau allweddol o’i gabinet yn dilyn yr etholiad fis Mai ac maent yn sicr fod priodasau ar yr agenda yng Nghymru.

Dan reoliadau presennol Llywodraeth Cymru mae angen i leoliadau gynnal asesiad risg gan gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ledaenu coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru’n tybio na ddylai dawnsio gael ei ganiatáu mewn digwyddiadau o’r fath oherwydd y risg o ledaeniad Covid-19.

Dan y canllawiau presennol, mae hawl i’r cwpwl gael dawns gyntaf, ond mae angen i’r cwpwl ymbellhau’n gymdeithasol rhag gwestai’r briodas neu wasanaeth sifil.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn cynghori pobl i beidio chwarae cerddoriaeth yn uchel er mwyn sicrhau nad yw gwestai yn canu, weiddi neu godi eu lleisiau, sy’n cael eu hystyried yn weithgareddau risg uchel.

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r cyfyngiadau Covid-19 sydd ar waith ar 15 Gorffennaf.

Ar hyn o bryd, mae’r broses o lacio’r cyfyngiadau yng Nghymru wedi oedi ychydig o ganlyniad i bryderon am amrywiolyn Delta.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.