Newyddion S4C

Cyhoeddi enw dyn 'gofalgar a chariadus' a fu farw yn Afon Teifi

12/06/2024
Leon Vernon-White

Mae enw'r dyn a fu farw yn Afon Teifi yng Ngheredigion ddydd Iau wedi ei gyhoeddi. 

Bu farw Leon Vernon-White, 24 oed o Tewkesbury yn Sir Gaerloyw, ar ôl i'w ganŵ droi drosodd yn yr afon.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i Aberteifi toc cyn 19:40 ddydd Iau ar ôl derbyn adroddiadau fod dyn wedi mynd ar goll.

Yn ogystal â'r heddlu, roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwylwyr y Glannau a thimau chwilio ac achub arbenigol yn y lleoliad.

Cafodd corff Mr Vernon-White ei ddarganfod am 01:00 ddydd Gwener ar ôl sawl awr o chwilio.

'Ysbryd rhydd'

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu: “Roedd yn ysbryd rhydd oedd â’r gallu i roi gwên ar wyneb pawb. Gallai fod yn ddireidus ac ystyfnig ond hefyd yn ofalgar a chariadus ac yn ffyrnig o ffyddlon, yn ffynhonnell gyson o adloniant i bawb oedd yn ei adnabod.

“Disgrifiodd ei hun fel artist gemwaith, cerddor a rhywun oedd yn frwdfrydig am wyddoniaeth, ac mae hyn yn ei grynhoi’n berffaith.

“Roedd Leon yn caru anifeiliaid, yn enwedig ei ddau gi Missy a Sid, oedd yn mynd i bobman gydag ef.

“Roedd yn gymeriad go iawn ac roedd ganddo gylch mawr o ffrindiau o bob cefndir.

“Bydd colled fawr ar ei ôl, bydd yn ein calonnau am byth.”

Maen nhw hefyd wedi diolch i'r gwasanaethau brys  fu'n chwilio amdano.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.