Dyn yn colli ei waith am aflonyddu Chris Whitty

Whitty
Mae dyn ifanc wedi colli ei waith fel gwerthwr tŷ ar ôl i fideo ohono ymddangos yn aflonyddu Prif Swyddog Meddygol Lloegr, Yr Athro Chris Whitty.
Cafodd Lewis Hughes a’i ffrind Jonathan Chew, y ddau yn 24 oed, eu beirniadu’n llym gan y Prif Weinidog am roi eu breichiau ar yr ymgynghorydd a siantio arno.
Digwyddodd yr achos ym mharc St. James yn Llundain.
Mae Hughes bellach wedi ymddiheuro wrth bapur newydd The Sun, gan gyfaddef ei fod dan ddylanwad alcohol ar y pryd.
Dywedodd: “Pe bawn i wedi gwneud iddo [Whitty] deimlo'n anghyfforddus, ac mae yn edrych felly, yna rwy’n ymddiheuro’n llwyr iddo am hynny.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.