Newyddion S4C

Caernarfon: Cyfarfod cyhoeddus i drafod cynllun i godi gorsaf nwy

Caernarfon: Cyfarfod cyhoeddus i drafod cynllun i godi gorsaf nwy

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yng Nghaernarfon nos Fawrth i drafod cynlluniau i godi gorsaf nwy ar safle hen chwarel.

Mae cwmni peirianyddol Jones Bros Rhuthun wedi ceisio am ganiatâd i godi gorsaf nwy ar safle’r hen Chwarel Seiont, sydd yn agos i stad dai’r Hendre.

Byddai’r orsaf yn defnyddio nwy a oedd yn arfer bwydo'r gwaith brics er mwyn cynhyrchu 20 megawat o drydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol.

Mae cynlluniau hefyd i gael gweithfeydd malu concrit ar y safle yng Nghaernarfon.

Yn ôl y datblygwyr, bydd y gwaith yn dod â budd economaidd i'r ardal ond mae nifer o bobl leol yn gwrthwynebu’r cynllun.

Mae'r gwrthwynebwyr wedi sefydlu'r grŵp cymunedol Caernarfon Lân ac yn pryderu y bydd llygredd sŵn ac aer, yn ogystal â chynnydd mewn traffig, yn cael effaith ar iechyd trigolion a'r amgylchedd.

Mae'r grŵp yn honni y byddai'r orsaf nwy yn "rhyddhau nwyon tocsig gan gynnwys NOx", ac y byddai lorri HGV yn "cyrraedd y safle bob pum munud am 10 awr y diwrnod, pump a hanner diwrnod yr wythnos".

Mae dros 1,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb i wrthwynebu'r cynlluniau, ac fe roedd cyfarfod cymunedol yng Nghlwb Rygbi Caernarfon nos Fawrth.

'Ofnadwy'

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C o'r clwb, roedd Mari Elin o Gaernarfon Lân yn feirniadol o'r cynlluniau arfaethedig.

“Y ffordd mae'r cwmni yn mynd ati yn eu dogfennau nhw ydy sôn am mitigation - gwneud y ffeithiau yn llai gwaeth na fysa nhw fel arall ond does dim guarantee y bydd y mesurau mitigation yn gweithio o gwbl. Natho ni glywed gan ddoctor am yr effaith niweidiol o nwyon sydd yn dod o gas-fired peaking plants,” meddai.

“Swyddi, ella bydd yna 15 swydd - 'da ni’m yn gwybod os ydy’r rheiny’n swyddi newydd, neu’n cael eu trosglwyddo o rywle arall yn y cwmni. A hyd yn oed oes mae 'na [swyddi newydd], mae effeithiau niweidiol ofnadwy o’r llygredd aer, llygredd sŵn, cynnydd mewn traffig a’r effaith ar yr hinsawdd trwy fuddsoddi mewn fossil fuels heddiw yn ofnadwy.”

Fe wnaeth cwmni Jones Bros gwblhau proses ymgynghori cyhoeddus y llynedd, a chyn rhoi cais llawn mae wedi ymgynghori â chorff Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) a Chyngor Gwynedd.

Ond gan fod y cynllun yn cael ei ystyried fel datblygiad "o arwyddocâd cenedlaethol", nid cyngor Gwynedd fydd yn gwneud penderfyniad ar y cais cynllunio.

'Argyfwng hinsawdd'

Er bod rhai'n poeni am lygredd aer, mae’r asesiad Effaith Ansawdd Aer sydd ynghlwm â’r ymgynghoriad wedi awgrymu na fydd yr orsaf nwy yn cael "effaith niweidiol sylweddol" ar bobl sydd yn byw yn yr ardal gyfagos.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi datgan nad ydyn nhw’n credu y byddai’r datblygiad yn debygol o gael "effaith sylweddol ar yr amgylchedd".

Er hynny, mae'r AS lleol, Siân Gwenllian, wedi datgan ei bod yn gwrthwynebu’r cynllun.

"Does 'na ddim croeso yng Nghaernarfon i orsaf nwy fyddai'n peryglu iechyd y bobl," meddai mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl yn 2008, fe gollodd 50 o weithwyr eu swyddi pan gaeodd Hanson y gwaith brics, gan ddod â bron i 200 mlynedd o hanes gwneud brics yn y dref i ben.

Mae Jones Bros wedi ailagor y safle yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi ei ddefnyddio fel compownd ac ardal storio concrid ar gyfer ffordd osgoi Caernarfon.

Dywedodd llefarydd ar ran Jones Bros Civil Engineering UK yn flaenorol: “I wneud y mwyaf o’r newid i gynhyrchu trydan adnewyddadwy, mae angen pŵer wrth gefn ar y Grid Cenedlaethol pan fo allbynnau solar a gwynt yn isel.

“Mae’r prosiect yn cael ei ddosbarthu fel datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol, gan ei fod yn gallu cynhyrchu mwy na 10MW o ynni, felly o dan reoliadau Llywodraeth Cymru, gweinidogion fydd yn penderfynu ar y datblygiad yn hytrach na’r awdurdod lleol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.