Y gyfradd ddiweithdra ar ei huchaf ers dwy flynedd a hanner
Mae'r gyfradd ddiweithdra ar ei huchaf ers dwy flynedd a hanner yn ôl ffigyrau swyddogol.
Fe wnaeth ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ddangos fod y gyfradd wedi cynyddu i 4.4% o fis Chwefror i Ebrill eleni, i fyny o'r gyfradd flaenorol o 4.3%.
Dyma'r gyfradd uchaf ers mis Medi 2021.
Ychwanegodd yr ONS fod yna hefyd gynnydd wedi bod yn y gyfradd anweithgarwch, gyda 22.3% o'r boblogaeth oedran gweithio ddim yn chwilio am waith yn rheolaidd.
Dywedodd yr ONS: "Mae ffigyrau'r mis hwn yn parhau i ddangos arwyddion fod y farchnad lafur efallai yn gostwng, gyda'r nifer o swyddi gwag yn parhau i ostwng a diweithdra yn cynyddu, er bod twf enillion yn parhau yn weddol gryf."