Newyddion S4C

Y gystadleuaeth seiclo Tour of Britain yn dychwelyd i ogledd Cymru

10/06/2024

Y gystadleuaeth seiclo Tour of Britain yn dychwelyd i ogledd Cymru

Brwydro tan yr eiliad olaf.

Roedd yna ddiweddglo dramatig yng nghymal cynta'r ras i ferched trwy Brydain heddiw.

Lotte Kopecky cyrhaeddodd y brig, ond o drwch blewyn.

Cyffro go iawn i'r cefnogwyr oedd yn ddiolchgar o gael y gystadleuaeth yn dychwelyd i ogledd Cymru unwaith eto.

"Dw i'n byw yn lleol.

"Isio dod i gefnogi'r timau'n cymryd rhan heddiw.

"Mae'n braf gael o'n gogledd Cymru.

"Mae'n rhoi Llandudno ar y map."

"Dw i'n hapus bod o yma. Lot o ardaloedd prydferth iawn i weld."

"Dw i'n ffan mawr o seiclo. Mae'n grêt bod e nôl yn y gogledd.

"Mae dau stage yma."

Nid y cefnogwyr yn unig sy'n falch o gael y ras yng Nghymru.

Mae Elynor Backstedt yn un o ddwy o Gymru sy'n rhan o dîm Prydain yn y gystadleuaeth.

"The Welsh crowds are always the best.

"It's been nice to have people shouting my name.

"To see all the school kids out on the side is really nice."

Mae'r ras i ferched trwy Brydain yn un o gystadlaethau mwyaf y calendr seiclo.

I'r menywod yma sy'n rhan o grŵp sy'n annog fwy o fenywod i ymddiddori yn y gamp mae gallu gweld merched gorau'r byd yn holl bwysig.

"Mae o mor inspirational weld pobl yn gwneud, yn bell ac yn gyflym.

"Mor gyffrous.

"Yn fan'ma, mae'n bosib gwneud hynna.

"Mae o mor cŵl gweld y professionals yn mynd ar y llefydd ni wedi bod o'r blaen."

"Hogia ifanc yn fwy tebygol o gael eu dwyn i fyny yn reidio beics.

"Mae genod yn cael eu gweld yn fwy girlie for lack of a better word.

"Mae'n grêt iddyn nhw cael eu dwyn i fyny yn dallt bod hi'n bosib i wneud yr un pethau â dynion yn y byd seiclo."

Ers dechrau yn y Trallwng bore 'ma mae'r seiclwyr wedi teithio dros 140 cilometr a dringo dros 2,000 o fetrau i gyrraedd y llinell terfyn.

Does dim hir i orffwys gyda'r ras yn parhau yn Wrecsam fory.

Ond nid ennill y cymal nesaf, a'r gystadleuaeth yw'r unig beth sy'n ysgogi tîm Prydain i berfformio.

"Mae pob ras yn bwysig ond yn sicr mae hwn yn gyfle i ferched i weithio gyda'i gilydd fel tîm.

"Yn sicr, gan bod y gemau Olympaidd ar feddwl pawb ar hyn o bryd maen nhw i gyd yn moyn neud perfformiadau da i ddangos i'r rheiny sydd yn dewis beth maen nhw'n gallu neud."

Tri chymal sydd i fynd felly gyda'r timau'n gorffen dros glawdd Offa dydd Sul.

Ond bydd Paris, a'r gemau Olympaidd yn eu meddyliau bob cam o'r ffordd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.