Newyddion S4C

'Tu hwnt i jôc': Ysgol yn gyrru merched adref oherwydd hyd eu sgertiau

10/06/2024
Ysgol Cil-y-coed

Mae rhieni merched mewn ysgol yn Sir Fynwy yn anhapus wedi i'w plant gael eu gyrru adref oherwydd rheolau llym newydd ynglŷn â hyd sgertiau.

Daw ar ôl i bennaeth dros dro newydd Ysgol Cil-y-Coed gyflwyno rheolau llym ar wisgoedd ysgol.

Mae rhieni'r merched wedi dweud bod y rheolau newydd yn "annheg" gan eu bod yn "targedu merched".

Roedd un ferch yn honni ei bod wedi cael ei hanfon at athro gwrywaidd er mwyn iddo fesur hyd ei sgert.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dweud bod yr holl faterion yn ymwneud â gwisg merched yn cael eu trin gan aelodau benywaidd o staff. 

Yr wythnos diwethaf, roedd llythyr a gafodd ei anfon at rieni yn Ysgol Cil-y-Coed yn mynnu y byddai’n rhaid i sgertiau disgyblion “gyrraedd y pen-glin”.

Wrth i ferched gyrraedd eu dosbarthiadau fore Llun, roeddent wedi cael gwybod y byddai hyd eu sgertiau yn cael ei fesur.

Roeddent hefyd wedi cael cynnig weips i dynnu colur oddi ar eu hwynebau, yn ogystal â chlipwyr i dorri eu hewinedd.

Fe wnaeth y pennaeth dros dro, Alun Ebenezer, rybuddio rhieni “na fydd myfyrwyr yn cael cerdded o gwmpas yr ysgol os na chaiff y canllawiau hyn eu dilyn”.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: “Rydym yn ymwybodol y bore yma bod staff Ysgol Cil-y-coed wedi bod yn fwy trwyadl wrth weithredu polisi gwisg ysgol yn unol â'r cyhoeddiad ar wefan yr ysgol.

“Ysgrifennodd y pennaeth dros dro at yr holl rieni a gofalwyr yr wythnos diwethaf yn nodi y byddai hyn yn wir o’r bore yma.

“O ran y cwestiwn penodol ynglŷn â hyd sgertiau yn yr ysgol, mae holl faterion yn ymwneud â gwisgoedd merched yn cael eu trin gan aelodau benywaidd o staff.”

'Annheg'

Dywedodd un ferch 14 oed, a siaradodd â’r Gwasanaeth Democratiaeth Leol gyda chaniatâd ei mam ond ar yr amod ei bod yn ddi-enw, iddi gael gorchymyn i gael mesur ei sgert gan athro gwrywaidd pan gyrhaeddodd yr ysgol.

Dywedodd y ferch: “Mi nes i gerdded i mewn a dywedodd un o'r athrawon wrthyf i fynd at Mr (athro gwrywaidd) i fesur fy sgert.” 

Yn hytrach na gwneud hynny, dywedodd y ferch ei bod wedi mynd i'r ystafell lle'r oedd disgyblion yn cael eu cadw a'u hatal rhag mynychu gwersi. 

Ond fe gafodd ei hanfon adref yn fuan wedyn am wisgo amrannau ffug.

Dywedodd merch arall 13 oed y bu’n rhaid i’w mam ei chasglu o'r ysgol.

“Pan nes i gyrraedd yr ysgol roedd dau o athrawon ger y drws ffrynt ac fe ddywedon nhw, ‘mae gen ti amrannau ymlaen’, ac fe aethon nhw â fi i ystafell ac roedd tua 50 o ferched eisoes yn yr ystafell honno,” meddai. 

Dywedodd ei mam: “Mae ganddyn nhw’r merched hyn i gyd mewn ystafelloedd ynysu, y maen nhw nawr yn eu galw’n ystafelloedd dal, iddyn nhw i gyd gael eu hanfon adref. Mae'n annheg, ac yn targedu merched. 

"Mae y tu hwnt i jôc, nid ydyn nhw hyd yn oed eisiau eu dysgu.”

Image
Kevin Caldicot
Mae'r rhiant Kevin Price Caldicot wedi dweud bod y polisi gwisg ysgol wedi achosi "niwed emosiynol" i blant

‘Niwed emosiynol’

Dywedodd un tad, sy'n dymuno bod yn ddi-enw, iddo gasglu ei fab 15 oed, gan nad oedd ei grys wedi ei roi yn ei drowsus, a'i ferch 13 oed oherwydd hyd ei sgert. 

Dywedodd bod ei blant wedi cael eu bygwth â gwaharddiad o'r ysgol oherwydd eu bod wedi torri'r polisi gwisg ysgol newydd.

Ychwanegodd bod ei fab, sydd ym mlwyddyn 10, wedi cael gwybod y gallai sefyll ei harholiad TGAU ond y byddai'n cael ei anfon adref wedyn. 

“Mae ganddyn nhw hawl i addysg ac fe wnaeth y pennaeth hefyd geisio dweud wrthyf ei fod yn risg iechyd a diogelwch. Mae'n hollol pathetig,” meddai. 

“Maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau iddyn nhw edrych yn smart, ond ni fydd ganddyn nhw unrhyw blant 'smart' os nad ydyn nhw'n cael addysg.” 

Tad arall oedd yn gorfod casglu ei ferch o'r ysgol oedd Kevin Price Caldicot, a hynny oherwydd hyd ei sgert hi.

Dywedodd Mr Price iddo gael gwybod bod hyd at 200 o ddisgyblion wedi cael eu gwrthod rhag mynychu dosbarthiadau. 

Ychwanegodd fod disgyblion a rhieni mewn dagrau. 

Yn sgil hynny, fe wnaeth Mr Price fynnu i’r ysgol roi gwybod, yn ysgrifenedig, y rheswm pam y gwrthodwyd addysg i’w ferch.

“Dw i wedi dweud wrthyn nhw fod niwed emosiynol yn cael ei achosi i blant heddiw, ac nid oes yr un ohonyn nhw wedi codi eu llais yn ei erbyn,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.