Newyddion S4C

Maniffesto y Dem Rhydd: Iechyd a gofal 'wrth galon' y ddogfen

10/06/2024
Syr Ed Davey

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi lansio maniffesto ei blaid ddydd Llun.

Wrth lansio’r maniffesto yn Llundain dywedodd Syr Ed Davey fod iechyd a gofal “wrth galon” y ddogfen, ‘For A Fair Deal.’

Fel rhan o’r ddogfen, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y byddan nhw’n ariannu pecyn gwerth £9.4 biliwn ar gyfer y GIG a gofal cymdeithasol yn Lloegr. Mi fyddan nhw yn gwneud hynny trwy godi trethi i fanciau yn ogystal â mynd i’r afael a phobl “hynod o gyfoethog” sydd yn ceisio camddefnyddio’r system er eu lles nhw.

“Y gwirionedd ydy, os nad ydyn ni’n gwerthfawrogi gofal, yn cefnogi ein gweithwyr gofal, ni fyddwn ni byth yn mynd i’r afael a’r argyfwng y mae ein GIG yn wynebu, na chwaith cael ein heconomi yn ôl ar y trywydd iawn,” meddai.

Yn 116 tudalen o hyd, a gyda 22 o benodau, mae’r maniffesto hefyd yn nodi’r newidiadau y mae’r blaid am eu gwneud o ran yr economi, y fyddin, yn ogystal â chynlluniau i drawsnewid gwleidyddiaeth. 

Ar lefel rhyngwladol, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y byddan nhw’n ceisio ail gyflwyno’r Deyrnas Unedig i farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd. 

O ran trethu, mae’r blaid wedi dweud eu bod am godi’r arian sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer buddsoddi drwy: 

  • Ddadwneud toriadau wnaeth y Ceidwadwyr ar gyfer y banciau mawr
  • Codi’r dreth ar gyfer cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a chewri’r byd technoleg o 2% i 6%. 
  • Ail-strwythuro treth enillion cyfalaf er mwyn atal pobl hynod o gyfoethog rhag camddefnyddio’r system. 
  • Cyflwyno treth o 4% ar gyfer cynlluniau i brynu cyfranddaliadau o gwmnïau rhestredig y FTSE-100, a hynny er mwyn creu swyddi, annog pobl i fuddsoddi, ac er mwyn creu twf i’r economi. 

Dywedodd Syr Davey y byddai hefyd yn rhoi’r gorau i’r system bleidleisio ‘cyntaf-i’r-felin’ (‘first-past-the-post’), gan gyflwyno system sydd yn sicrhau cynrychiolaeth gyfrannol (‘proportional representation’). 

Llun: Lucy North/PA Wire
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.