Dyn mewn anghydfod gyda Chyngor Caerdydd dros waith atgyweirio palmant
Mae dyn o Gaerdydd a gafodd wybod gan y cyngor bod rhaid iddo dalu i adnewyddu rhan o balmant y tu allan i’w dŷ wedi cwyno ei fod yn dal i ddisgwyl i’r awdurdod drwsio tyllau ar y stryd.
Fe benderfynodd Glenn Rogers, 66 oed o Gyncoed, i ymestyn ymyl y pafin y tu allan i'w dŷ ddwy flynedd yn ôl fel ei fod yn ddigon llydan i’w gar, a char ei gymydog.
Ond mae’n honni fod Cyngor Caerdydd wedi dweud wrtho y byddai yn rhaid iddo dalu i wneud y gwaith eto.
Roedd y cyngor eisiau defnyddio contractwr penodol i wneud y gwaith, ac yn dweud y dylai fod wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Tra’n derbyn y dylai fod wedi gwneud hyn mae’n flin fod y cyngor wedi bod yn hynod o araf yn llenwi’r tyllau ar y stryd.
“Mi wnaethon nhw ymateb mor gyflym efo’r mater yna, a oedd gyda llaw yn welliant am fod yr hen bafin yn torri yn ddarnau. Mi oedd o yn fwy o waith trwsio,” meddai.
Dywedodd Mr Rogers ei fod wedi cysylltu â’r cyngor ddechrau’r wythnos ddiwethaf ond ei fod heb gael ymateb gan unrhyw un hyd yn hyn. Yr unig beth mae o wedi ei dderbyn yw neges awtomatig i gadarnhau ei fod wedi cysylltu gyda’r cyngor.
Anaf
Mae’n dweud fod tyllau ar ei stryd yn eithriadol o wael a’i fod wedi troi ei bigwrn tra'r oedd yn croesi’r stryd i ymweld â ffrind ddwy flynedd yn ôl.
Fe ddaeth rhywun o’r awdurdod lleol i drwsio’r tyllau adeg hynny meddai. Er hynny dim ond “trwsio darn bach” wnaethon nhw meddai Mr Rogers.
Y llynedd fe ddywedodd Cyngor Caerdydd ei bod hi’n dasg fawr i gadw’r ffyrdd a phalmentydd mewn cyflwr da mewn cyfnod pan mae’r esgid yn gwasgu.
Dyw hyn ddim yn unigryw i Gaerdydd gyda chynghorau eraill ar draws y wlad yn wynebu’r un sefyllfa.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod yr awdurdod yn monitro’r ffyrdd gan ddilyn y deddfwriaethau perthnasol.
“Mae’r cyngor yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael er mwyn cael yr effaith fwyaf trwy wneud ystod o waith ar y ffyrdd gan gynnwys ail greu, rhoi wyneb newydd ar y ffyrdd, trwsio wyneb y ffyrdd a thrwsio dros dro ar gyfer llenwi’r tyllau.
“Ateb dros dro yw trwsio tyllau’r ffyrdd tan fod modd cael ateb mwy hir dymor sydd yn golygu gwaith trwsio ar raddfa fwy neu roi wyneb newydd ar y ffordd.”