Newyddion S4C

Cennard Davies yn Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Cennard Davies

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Cennard Davies fydd Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

Brodor o Dreorci yng Nghwm Rhondda yw Mr Davies a heblaw am gyfnodau ym Mhrifysgol Abertawe a chwta flwyddyn yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, mae wedi byw yn y dref ar hyd ei oes.

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, dychwelodd i’w hen ysgol, Ysgol Ramadeg y Porth, fel athro am gyfnod cyn mynd i Goleg y Barri i arwain cwrs yn y Gymraeg ar gyfer athrawon. 

Bu wedyn yn dysgu Cymraeg i oedolion am weddill ei yrfa. Dysgodd genedlaethau o drigolion yr ardal ar gwrs dwys a dod yn bennaeth Canolfan Astudiaethau Iaith Prifysgol Morgannwg. 

Yn ogystal â dysgu oedolion yn lleol, mae hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu dysgu Cymraeg i Oedolion yn genedlaethol. Roedd yn gyfrifol am greu ‘Catchphrase’ ar Radio Wales ac yn un o gyflwynwyr y gyfres. 

Addysgwr ac ymgyrchydd

Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr ardal Dysgu Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn un o’r arloeswyr cynnar yn Nant Gwrtheyrn, ac yn awdur nifer o lyfrau.

Bu’n gadeirydd Mudiad Meithrin yn y saithdegau ac mae wedi ymgyrchu’n ddiflino i sefydlu ysgolion Cymraeg yn yr ardal. Erbyn hyn, fo yw Llywydd Anrhydeddus Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg. 

Bu’n olygydd ‘Y Gloran’, papur bro'r Rhondda am ddegawdau, yn gynghorydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn ddiacon ac yn ysgrifennydd Capel Hermon, Treorci. Mae wrth ei fodd mai yng Nghapel Hermon mae Côr Cwm Rhondda’n ymarfer ac mai Hermon yw cartref Eisteddfod y Rhondda.

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, Helen Prosser, “Mae’n fraint anrhydeddu Cennard Davies fel Llywydd Eisteddfod 2024 – dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu at Gymru gyfan. 

“Mae ei gyfraniad i’r sector Dysgu Cymraeg – yn lleol ac yn genedlaethol – yn amhrisiadwy. Gŵr bonheddig a sgwrsiwr heb ei ail, mae’n donic i gael treulio amser yn ei gwmni.”

Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.