Newyddion S4C

Pedwar o wystlon wedi eu hachub yn Gaza yn dilyn cyrch gan luoedd Israel

08/06/2024
Noa Argamani

Mae pedwar o wystlon o Israel a gafodd eu cipio gan Hamas yn yr ymosodiadau ar 7 Hydref wedi cael eu hachub.

Cafodd Noa Argamani, 25 oed, Almog Meir Jan, 21 oed, Andri Kozlov, 27 oed, a Shlomi Ziv, 40 oed, eu hachub yn dilyn cyrch ‘cymhleth’ mewn dau leoliad yn Nuseirat, yng nghanol Gaza, yn ôl yr Israel Defence Forces (IDF).

Mae’r pedwar mewn cyflwr meddygol dda ac wedi eu trosglwyddo i Ganolfan Meddygol Sheba Tel-HaShomer am ragor o brofion.

Dywedodd Gweinidogaeth Iechyd Gaza, sydd yn cael ei redeg gan Hamas, fod ‘dwsinau’ o bobl wedi eu lladd a’u hanafu yn y digwyddiad, gan gynnwys plant.

Mae staff yn ysbyty Al-Aqsa yn ‘ei chael hi’n anodd’ ymdrin â’r rhai sydd wedi eu hanafu, yn ôl yr awdurdod.

Llun: Noa Argamani (llun teulu)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.