Deifwyr yn ymuno yn yr ymdrech i ddarganfod Michael Mosley yng Ngwlad Groeg
Mae deifwyr wedi ymuno yn yr ymdrech i ddarganfod y meddyg a'r darlledwr Michael Mosley sydd ar goll yng ngwlad Groeg.
Cafodd Dr Mosley, sy'n aml yn ymddangos ar raglenni fel This Morning, ei weld am y tro diwethaf ddydd Mercher.
Dywedodd heddlu Gwlad Groeg fod y darlledwr wedi gadael ei wraig ar draeth cyn cychwyn ar daith gerdded i ganol yr ynys.
Yn ôl y llu, cafwyd hyd i ffôn Mr Mosley lle’r oedd yn aros gyda’i wraig.
Y gred yn wreiddiol oedd ei fod wedi mynd ar goll tra'n cerdded ar hyd llwybr arfordirol - ond bellach mae lluniau cylch cyfyng yn awgrymu ei fod wedi cyrraedd tref gyfagos.
Mae llygaid-dystion hefyd wedi dweud wrth yr heddlu eu bod wedi ei weld mewn arosfan fysiau yn y dref.
Ailddechreuodd yr heddlu lleol chwilio amdano ar ynys Symi ddydd Gwener.
Mae'r heddlu a diffoddwyr tân wedi bod yn defnyddio dronau i geisio dod o hyd i Mr Mosley.
Deifwyr
Cadarnhaodd dirprwy faer Symi, Ilias Chaskas, wrth asiantaeth newyddion PA fod “deifwyr yn edrych yn y dŵr”, ac bod gwylwyr y glannau wedi ymuno â’r ymdrechion achub.
Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau Symi: “Mae ein holl gychod patrôl yn chwilio … tua phump a hefyd mae’r holl gychod preifat, cychod masnachol yn gwybod am y digwyddiad ac maen nhw’n chwilio amdano hefyd yn yr ardal hon”
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Materion Morwrol a Pholisi Ynysoedd ddydd Gwener: “Rydym yn eich hysbysu bod Awdurdod Porthladd Symi yn cynorthwyo ymchwiliadau’r Heddlu Helenig, gan ddefnyddio patrolau o’r môr a llongau gweithredol sy’n patrolio’r ardal.”
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân yng Ngwlad Groeg: “Mae’r chwilio’n parhau heddiw gyda saith diffoddwr tân, un drôn yn gwirio’r ardal ehangach, ac rydyn ni yn cydweithredu â Swyddfa Heddlu Helenig.”
Cadarnhaodd y llefarydd hefyd fod heddlu Gwlad Groeg yn defnyddio cŵn synhwyro wrth chwilio.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym yn cefnogi teulu dyn o Brydain sydd ar goll yng Ngwlad Groeg ac rydym mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol."
Mae Dr Mosley yn adnabyddus i wylwyr This Morning a The One Show am rannu cyngor ar sut i gadw’n iach ac yn heini.
Mae hefyd wedi ymddangos yn y gyfres BBC, Trust Me, I’m a Doctor ac ar y podlediad, Just One Thing.