Newyddion S4C

Carcharu dyn o Amlwch am dreisio merch yn ei harddegau

07/06/2024
Robert Llewellyn Price

Mae dyn 36 oed o Amlwch ar Ynys Môn wedi cael ei garcharu am dreisio merch yn ei harddegau. 

Ymddangosodd Robert Llewellyn Price o Ffordd Llaneilian, Amlwch, yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau lle cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd ac wyth mis o garchar am ddau achos o drais.  

Fe gafodd hefyd orchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw am oes. 

Dywedodd y ferch, a oedd yn 16 oed ar y pryd, am y digwyddiadau wrth yr heddlu ym mis Ebrill eleni. 

Ar ôl i Price ddenu'r ferch i'w gartref ar ddau achlysur, fe'i treisiodd ddwywaith cyn iddi ddweud wrtho ei bod hi'n ofni ei bod yn feichiog. 

Dywedodd Price wrthi y byddai "mewn trwbl" pe bai hi'n dweud wrth unrhyw un. 

Ar ôl i'r ferch adrodd am yr ymosodiadau, aeth Price ar ffo cyn cael ei arestio ar glogwyn yn Amlwch a'i gadw yn y ddalfa. 

Dywedodd y Sarjant Mark Dickson: “Roedd hwn yn ddigwyddiad erchyll i'r ferch ifanc hon a wnaeth ddangos dewrder rhyfeddol wrth ddod ymlaen ac adrodd am droseddau Price.

"Dwi'n ei chymeradwyo am wneud hynny a'i chryfder drwy gydol yr achos.

"Dwi'n gobeithio y bydd hi'n gallu symud ymlaen yn ei bywyd, gan wybod y bydd Price nawr yn talu am ei ymosodiadau cywilyddus."



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.