Dod o hyd i gorff dyn oedd ar goll yn Afon Teifi
Dod o hyd i gorff dyn oedd ar goll yn Afon Teifi
Mae'r heddlu wedi dod o hyd i gorff dyn yn ei ugeiniau yn y dŵr yn Afon Teifi yng Ngheredigion.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw wedi eu galw i Aberteifi toc cyn 19:40 ddydd Iau ar ôl derbyn adroddiadau fod canŵiwr wedi mynd ar goll.
Yn ogystal â'r heddlu, roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwylwyr y Glannau a thimau chwilio ac achub arbenigol yn y lleoliad.
Cafwyd hyd i'r corff am 01:00 ddydd Gwener ar ôl sawl awr o chwilio.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad oedd unrhyw brawf adnabod ffurfiol wedi digwydd.
Ond mae perthnasau agosaf y dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion.
Llun: Yr Afon Teifi yn Aberteifi (Google)