Cyhuddo dyn o Gasnewydd o droseddau yn ymwneud â therfysgaeth
06/06/2024
Mae dyn o Gasnewydd wedi ei gyhuddo o droseddau yn ymnweud a therfysgaeth.
Dywedodd Heddlu Gwrth-Derfysgaeth Cymru eu bod nhw wedi cyhuddo Hakan Barac, 27 oed, ddydd Iau.
Mae wedi ei gyhuddo o ddosbarthu cyhoeddiadau terfysgol a chefnogi mudiad sydd wedi ei wahardd.
Gwrthodwyd mechnïaeth iddo ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Westminster ddydd Iau.
Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw’n credu bod perygl ehangach i’r cyhoedd.