Newyddion S4C

Rhoddion: Vaughan Gething wedi ceisio rhwystro rhyddhau manylion ei lobïo ar ran cwmni

Newyddion S4C 04/06/2024
Vaughan Gething

Ceisiodd Prif Weinidog Cymru rwystro rhyddhau manylion ei lobïo ar ran cwmni oedd wedi torri'r gyfraith cyn i uwch-gwmni cysylltiedig roi miloedd i'w ymgyrch i arwain Llafur Cymru.

Yn ôl e-byst sydd wedi eu rhyddhau i Newyddion S4C, fe wnaeth Mr Gething geisio perswadio Cyfoeth Naturiol Cymru i beidio rhyddhau gwybodaeth wedi i gais gael ei wneud dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Mae Mr Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder ddydd Mercher ac wedi bod dan bwysau cynyddol wedi i fanylion rhodd o £200,000 i'w ymgyrch i arwain Llafur Cymru ddod i'r golwg gan gwmni Dauson Environmental Group, sydd yn cael ei redeg gan David Neal.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru nad oedd "unrhyw awgrym nad oedd Vaughan Gething am weld y wybodaeth yn cael ei rhyddhau".

Datgelodd BBC Cymru ym mis Mawrth i Mr Gething lobio Cyfoeth Naturiol Cymru i lacio cyfyngiadau ar un arall o gwmnïau David Neal, Atlantic Recycling, yn 2016.

Cafodd Atlantic Recycling Ltd, a'r cyfarwyddwr David Neal, eu herlyn yn 2013 am waredu a gwastraff yn anghyfreithlon, ac yn 2017 am beidio glanhau'r llanast.

Derbyniodd Mr Neal ddirwy a £10,000 a dedfryd o dri mis o garchar wedi'i ohirio yn 2013 a 18 wythnos o garchar wedi'i ohirio yn 2017, ynghyd a dirwyon a chostau gwerth £230,000.

Mae cwmnïau dan reolaeth Mr Neal wedi rhoi degau o filoedd o bunnoedd i ymgyrchoedd Vaughan Gething i arwain Llafur Cymru.

Yn gynharach yr wythnos hon, datgelodd rhaglen BBC Wales Investigates bod ymchwiliad troseddol i un arall o gwmnïau Mr Neal pan roddwyd £200,000 i ymgyrch Vaughan Gething gan Dauson Environmental Group.

Mewn datganiad, dwedodd Mr Neal i "bob rhodd ddod o gyfrif ar wahân i'r rhai sydd yn cael eu defnyddio at ddatblygu ein busnes; dydyn ni erioed wedi gofyn am na disgwyl unrhyw beth oherwydd y rhoddion."

E-byst Vaughan Gething

Ar awgrym ffynhonnell, gofynnodd Newyddion S4C am unrhyw gyfathrebu rhwng Mr Gething a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cais gwreiddiol BBC Cymru am lobio Vaughan Gething ar ran cwmnïau David Neal.

Mae'r e-byst a ryddhawyd yn dangos i Gyfoeth Naturiol Cymru gysylltu gyntaf gyda Mr Gething ar Fawrth y 4ydd eleni, gan ofyn am unrhyw reswm na allai'r wybodaeth oedd wedi ei hel ganddyn nhw gael ei ryddhau dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Atebodd Vaughan Gething gyntaf ar Fawrth y 5ed, gan labelu'r cais yn "drip pysgota" a dweud y byddai ei etholwyr yn disgwyl i unrhyw gyfathrebu ar eu rhan gan aelod etholedig aros yn gyfrinachol.

Gofynnodd hefyd a fyddai rhyddhau'r wybodaeth yn torri deddfau diogelu data.

Ymatebodd cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru gan ddweud bod rhyddhau'r wybdaeth yn gyfreithiol ac yn hanfodol dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Atebodd Mr Gething, sydd yn gyn-gyfreithiwr, unwaith eto, gan ddweud nad oedd e'n deall "sut mae fy nghyfathrebu, yn llawn neu yn rhannol, yn gyfystyr a gwybodaeth amgylcheddol."

Dywedodd y byddai rhyddhau'r wybodaeth yn effeithio ar y ffordd mae'n gweithredu ar ran ei etholwyr.

Rhyddhawyd y wybodaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar Fawrth yr 8fed. Cadarnhawyd Vaughan Gething fel arweinydd Llafur Cymru ar Fawrth 16eg.

‘Brwydro am ei fywyd gwleidyddol’

Mae gwrthbleidiau'r Senedd wedi beirniadu ymatebion y Prif Weinidog.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru "Mae'r datgeliad diweddaraf yn brawf pellach o atgasedd Vaughan Gething o sgriwtini a thryloywder."

"Petai dim byd gan y Prif Weinidog i'w guddio ac nad yw e'n poeni am unrhyw ganfyddiad ei fod yn gweithredu ar ran noddwr mawr, does bosib y byddai e wedi bod yn falch o gydweithio a chais rhesymol am wybodaeth."

Yn ôl llefarydd ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Mae'r canfyddiad bod yna wrthdaro buddiannau yn gysylltiedig â Vaughan Gething yn un o'r prif resymau ei fod e'n brwydro am ei fywyd gwleidyddol."

Disgrifio’r e-byst fel "datguddiad pryderus" wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, gan ddweud eu bod nhw yn "codi cwestiynau pellach am allu'r Prif Weinidog i weithredu”.

Gwadu bod Mr Gething am rwystro'r wybodaeth rhag cael ei ryddhau wnaeth Llafur Cymru, gan fynnu ei fod yn hytrach yn "ceisio cadarnhau egwyddor rhyddhau gwybodaeth a sut allai hynny amharu ar waith Aelodau'r Senedd”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.